Cysylltiadau dŵr newydd
Os ydych chi'n adeiladu cartref neu eiddo masnachol newydd (fel siop, swyddfa neu adeilad diwydiannol), oni bai eich bod chi'n bwriadu cynaeafu dŵr glaw, mae'n debygol y bydd arnoch angen cysylltiad newydd â'n prif bibell ddŵr.
Beth fydd y gwasanaeth yn ei ddarparu?
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer cysylltiadau dŵr newydd ac i ddisodli hen gysylltiadau.
Mae'n bosibl y bydd arnoch angen cysylltiad dŵr newydd os:
- ydych chi’n adeiladu eiddo newydd
- ydych chi’n ychwanegu at adeilad (e.e. yn codi estyniad, cyfadeilad neu anecs)
- oes arnoch angen cyflenwad ar gyfer adeilad dros dro
- ydych chi’n trosi adeilad yn nifer o unedau â chyflenwadau unigol
- ydych chi’n trosi eiddo at ddefnydd gwahanol (er enghraifft, troi sgubor neu fodurdy yn dŷ/cartref)
- ydych chi’n gosod offer atal tân (e.e. taenellwr tân)
- oes arnoch angen cyflenwad at ddibenion dyfrhau
- ydych chi’n symud o gyflenwad preifat
Efallai y bydd arnoch angen cyflenwad dŵr amgen os:
- yw pwysedd eich dŵr yn isel a bod angen cyflenwad mwy arnoch
- ydych chi'n gwahanu cyflenwad sy’n cael ei rannu
- you are converting a property into multiple units with a shared supply
Yn achos adeiladau masnachol, os oes angen llawer o ddŵr arnoch, yn enwedig dŵr i'w ddefnyddio ar gyfer prosesau diwydiannol, mae'n bosibl y bydd arnoch angen cysylltiad mawr.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych am y broses, dylai ein nodiadau canllaw manwl ar waelod y dudalen hon fod o ddefnydd.
Faint o amser bydd hyn yn ei gymryd?
Mae yna sawl cam yn y broses o drefnu cysylltiad dŵr newydd:
Beth fydd y gost?
Mae cost cysylltiad dŵr newydd yn cynnwys pedair elfen:
1. Y ffi ymgeisio cychwynnolFfi o'r bron na ellir ei had-dalu yw hon. Rhaid ei thalu adeg cyflwyno'r cais gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd dilys. Pan ddaw'r amser i dalu'r tâl cysylltu, byddwn ni'n tynnu'r ffi ymgeisio o'r swm, felly dim ond y gwahaniaeth y bydd angen ei thalu:
- Cost cysylltiad safonol yw £81+TAW y cais. Bydd y dyfynbris a gewch chi'n ddilys am chwe mis. Wedyn bydd angen i chi dalu am gais newydd. I wneud cais am gysylltiad safonol, mewngofnodwch i'r porth ar waelod y dudalen hon.
- Y pris am gysylltiad mwy, sydd dros 63mm (lle bo angen cyflenwad penodol o ddŵr at ddibenion diffodd tân), yw £2000+TAW y cais. I wneud cais am gysylltiad mwy, llenwch y ffurflen gais yma a'i dychwelyd i developer.services@dwrcymru.com
2. Y tâl cysylltu
- Yn achos cysylltiadau maint safonol, yn dibynnu ar faint o waith y mae angen ei gyflawni i'ch cysylltu â'n rhwydwaith dŵr, mae ein tâl cysylltu'n amrywio o £365+TAW i £2,222+TAW. Mae'n bosibl y bydd yna ffioedd ychwanegol, er enghraifft lle bo angen mwy o hyd er mwyn ymestyn y bibell wasanaeth i'r pwynt cysylltu. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael o dudalen 9 ymlaen yn ein rhestr o daliadau. Dim ond lle nad yw'r eiddo wedi ei heithrio rhag TAW y codir TAW.
- Yn achos cysylltiadau mwy, byddwn ni'n llunio dyfynbris pwrpasol. Dim ond lle nad yw'r eiddo wedi ei heithrio rhag TAW y codir TAW.
3. Y tâl seilwaith dŵr
Tâl untro yw hwn:
- £428 yr eiddo am gysylltiad safonol
- £428 x y lluosrif o dan sylw am gysylltiadau mwy (mae manylion ein lluosrifau ar dudalennau 22-23 o'r rhestr taliadau)
4. Y tâl seilwaith gwastraff
Tâl untro yw hwn sy'n cael ei bennu gan ein rheoleiddiwr, Ofwat, ac mae'n berthnasol i eiddo sy'n cysylltu â'n system garthffosiaeth hefyd, ac sy’n dewis mynd am gysylltiad dŵr safonol newydd:
- £428 yr eiddo am gysylltiad safonol
- £428 x y lluosrif o dan sylw am gysylltiadau mwy (mae manylion ein lluosrifau ar dudalennau 22-23 o’r rhestr taliadau)
Fel cwmni nid-er-elw, mae ein prisiau’n seiliedig ar gost darparu’r gwasanaeth yn unig. Am fanylion ein prisiau, darllenwch ein rhestr o daliadau yma
1. Dewiswch faint cysylltiad
Gweler cost ddangosol ar gyfer eich cysylltiad dŵr newydd. Dewiswch faint eich cysylltiad:
Nodiadau canllaw ar gysylltiadau dŵr newydd
PDF, 340.5kB
Byddem yn cynghori pawb i ddarllen ein nodiadau canllaw manwl yma cyn cyflwyno cais