Rwyf yn estyn fy nghartref


Os ydych chi’n newydd i’n gwasanaethau ac yn bwriadu ehangu eich eiddo, dyma ragor o fanylion am eich cyfrifoldebau, beth mae angen i chi ei ddweud wrthym (a phryd), a throsolwg o’r broses.

Mae ein rhwydwaith yn rhedeg o dan y ddaear ar draws ein hardal weithredu i gyd, mewn strydoedd a gerddi, a thrwy gaeau a thir. Felly os ydych chi’n ehangu eich eiddo, trwy adeiladu estyniad neu ystafell haul efallai, mae’n ddigon posibl y bydd un o’n pibellau gerllaw.

Dyna pam y bydd angen i chi roi gwybod i ni os ydych chi’n bwriadu ymestyn eich cartref, fel y gallwn amddiffyn eich cartref, a’ch pibellau, yn ystod y gwaith adeiladu ac ar ôl ei gwblhau.

Beth sydd ynghlwm?

Gofynion: Cyn cysylltu

Mae’r gofynion ar gyfer ehangu eich eiddo yma:

  • Cyflwyno cais yn uniongyrchol i’ch cyngor lleol am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad rheoliadau adeiladu
  • Ffeindio ymhle mae’r prif bibellau dŵr, y draeniau ochrol a’r carthffosydd cyn dechrau unrhyw waith
  • Gallwn ddarparu arolwg canfod carthffos i chi neu gallwch gysylltu â chontractwr Safety Schemes in Procurement (SSIP) achrededig.

Os ydych chi’n bwriadu adeiladu dros ben neu o fewn tri metr i un o’n pibellau carthffosiaeth neu’n draeniau ochrol, bydd angen i chi roi gwybod i ni fel y gallwn ystyried hyn wrth adolygu eich cais. I gael rhagor o fanylion am adeiladu ger un o’n pibellau carthffosiaeth neu’n draeniau ochrol, cliciwch yma.

Ceisiadau perthnasol

Os ydych chi’n ymestyn eiddo, beth mae angen i chi ei wneud ac ym mha drefn?

Mae ein nodiadau canllaw manwl yn fan cychwyn da, ac maen nhw’n cynnwys rhagor o fanylion ar y ddau fath o ganiatâd sydd ar gael, a beth y byddwn ac na fyddwn yn ei ganiatáu.

Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf ar gyfer hunan-ardystio, gallwch lenwi ffurflen gais a byddwn ni’n anfon neges e-bost atoch i gadarnhau a yw’ch ffurflen wedi cael cydsyniad ai peidio.

Os na fyddwch chi’n bodloni’r meini prawf ar gyfer hunan-ardystiad, bydd gofyn i chi gyflwyno cais llawn.

  • Hunan-ardystiad - Rhaglen fyrrach lle gallwch ‘hunan-ardystio’ cyhyd â’ch bod chi’n bodloni meini prawf penodol o ran sut y bydd eich gwaith yn amddiffyn ein rhwydwaith o garthffosydd.
  • Cais llawn - Proses fwy manwl, sydd ei angen ar gyfer gwaith mwy cymhleth neu risg uwch, sy’n cynnwys asesiad technegol o’ch cynigion gan ein tîm pwrpasol.

Talu ar-lein

Gwneud taliadau diogel am eich ceisiadau ar-lein.

Tracio eich cynnydd

Tracio cynnydd eich ceisiadau ar-lein yn ein porth ar-lein.

Ydych chi’n gwsmer sydd angen cymorth ychwanegol?

Os ydych chi’n trosi neu’n ehangu eich eiddo i’w wneud yn fwy hygyrch i rywun â nam corfforol, yna rhowch wybod i ni yn adran ‘natur y cynnig’ eich ffurflen gais. Gallwn gynnig cymorth ychwanegol, fel eich helpu chi i baratoi eich cais, a darparu rhagor o gyngor a chymorth trwy’r broses adeiladu. I drafod eich cynigion, cysylltwch â’n tîm Adeiladu Dros Ben Carthffosydd ar 0800 917 2652.

Cofiwch, ni chewch ddechrau’r gwaith nes ein bod wedi cydsynio i’ch cais.

1. Oes angen cymorth arnoch?

Sgwrs Fyw gyda Gwasanaethau Datblygwr

Siarad ag un o’n gweithredwyr Gwasanaethau Datblygwr cymwynasgar

Agor Sgwrs Fyw Sgwrsio byw all-lein Sgwrsio byw yn llwytho

Rhowch alwad i ni

Os byddai’n well gennych siarad â ni dros y ffôn, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion isod

0800 917 2652

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5:00pm