Nid ydym yn gallu derbyn ceisiadau ar-lein ar hyn o bryd.

Wedi’i ddiweddaru: 15:03 09 June 2023

Mae gennym broblemau ar hyn o pryd sy’n golygu na all cwsmeriaid wneud ceisiadau newydd ar-lein drwy ein porth ac rydym yn gweithio’n galed i ddatrys y broblem. Nid ydym yn gallu derbyn ceisiadau ar-lein ar hyn o bryd.

Yn y cyfamser, llenwch ein ffurflenni cais sydd ar gael yma ac anfon pob cais wedi ei lenwi i developer.services@dwrcymru.com. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.

Mapiau o brif bibellau dŵr a charthffosydd


I'ch helpu chi i adeiladu'n ddiogel, gallwn ddarparu copi o'n planiau sy'n dangos lleoliad bras ein prif bibellau dŵr a'n carthffosydd yng nghyffiniau eich cartref neu'ch datblygiad.

Beth fydd y gwasanaeth yn ei ddarparu?

Mae ein cynlluniau ar gael ar raddfa o 1:2500 yn seiliedig ar y cyfesurynnau x ac y a ddarperir, ac yn y meintiau canlynol: A4 (297 x 210 mm), A3 (420 x297 mm) ac A0 (1189 x 841 mm).

Nid yw ein mapiau'n dangos ymhle mae cysylltiadau preifat eiddo’n cysylltu â'n rhwydwaith. Am i ni fabwysiadu draeniau ochrol yn rhan o drosglwyddiad 2011, nid yw llawer ohonynt wedi eu plotio ar ein mapiau.

Argymhellir yn gryf eich bod chi'n canfod y carthffosydd cyn mynd ati i gloddio neu adeiladu.

Faint o amser bydd hyn yn ei gymryd?

Os gwnewch gais ar lein, bydd ein tîm yn cynhyrchu'r plan ac yn ei ddychwelyd i chi cyn pen 5 diwrnod gwaith ar ôl i’ch taliad ddod i law.

Beth fydd y gost?

Daw planiau dŵr a charthffosiaeth ar wahân am £6.60 yr un. Er y gellir darparu ein planiau mewn tri maint gwahanol, pris pob maint yw £6.60 yr un. Bydd arnoch angen cerdyn debyd neu gredyd dilys wrth gyflwyno cais ar lein.

Fel cwmni nid-er-elw, mae ein prisiau'n seiliedig ar gost darparu'r gwasanaeth yn unig. Am fanylion ein prisiau, darllenwch ein rhestr o daliadau yma.

Mae hi'n bwysig nodi

Mewn rhai ardaloedd, nid ni yw'r sefydliad i'w holi am blaniau dŵr a charthffosiaeth cyhoeddus.

  • Yn nhermau planiau dŵr cyhoeddus, bydd angen i chi gysylltu â Hafren Dyfrdwy ar gyfer Heswall, Neston a Whitchurch yn Sir Amwythig, Caer a Wrecsam.
  • Am blaniau carthffosiaeth cyhoeddus, bydd angen i chi gysylltu â Severn Trent am rannau o Ledbury, Caerwrangon a Threfyclo.