Cyn cynllunio


A ydych chi’n ystyried adeiladu safle newydd ond yn dal yn y camau cynnar? Fel y dywed yr hen air, y cyntaf i'r felin gaiff falu. Ni waeth pa mor gynnar yr ydych yn y broses, bydd cysylltu â ni cyn gynted â phosibl yn ein helpu i benderfynu a all ein seilwaith dŵr a dŵr gwastraff gynnal eich safle newydd.

Beth fydd y gwasanaeth yn ei ddarparu?

  • Bydd ein hymateb yn cynnig trosolwg o gapasiti ein cyflenwadau dŵr, ein rhwydwaith carthffosiaeth a'n gweithfeydd trin dŵr gwastraff ac unrhyw ofynion o ran amddiffyn asedau. Byddwn ni'n rhoi syniad o leoliad ein hasedau i chi hefyd fel y gallwch fod yn sicr eu bod nhw'n cael eu hamddiffyn yn ystod y gwaith adeiladu, am y gall achosi difrod i unrhyw un o'n rhwydweithiau arwain at gamau cyfreithiol.
  • Bydd ein cyngor yn ddilys am 12 mis, a bydd yn helpu i fwydo ein hymateb pan fydd yr awdurdod cynllunio lleol yn ymgynghori â ni am eich cais cynllunio yn nes ymlaen.

Pa mor hir y bydd hyn yn ei gymryd?

  • Bydd aelod o'n tîm yn ymateb i'ch ymholiad cyn pen 21 diwrnod.

Beth fydd y gost?

  • Y gost am y gwasanaeth yma yw £74.72+TAW am bob cais. Rhaid talu hyn adeg cyflwyno'r cais ac ni ellir cynnig ad-daliad wedyn. Am fanylion ein prisiau, ewch i'n rhestr brisiau yma.

Ymgynghoriad 2D cyn ymgeisio

  • Cofiwch y bydd angen i chi ystyried ymgynghoriad 2D cyn ymgeisio. Yng Nghymru, rhaid i chi ymgynghori â ni am hyn. Byddem ni'n dal i argymell cyflawni ein gwasanaeth cyn cynllunio ymlaen llaw.

A ydych wedi ystyried draenio cynaliadwy?

  • Bydd ar bob datblygiad newydd yng Nghymru sy’n cynnwys mwy nag un adeilad neu sydd ag ardal adeiladu o 100m2 neu fwy angen caniatâd gan Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (a elwir hefyd yn SAB) ar gyfer unrhyw nodweddion SDC newydd, yn unol ag atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
  • Cyn cyflwyno ymholiad cyn cynllunio i ni, argymhellwn eich bod chi’n siarad yn gyntaf â'ch SAB lleol er mwyn penderfynu ai cysylltu dŵr wyneb â'r garthffos gyhoeddus yw’r ffordd fwyaf priodol o waredu dŵr wyneb. Gellir cael rhagor o wybodaeth am hyn yn ein taflen.
  • Efallai y byddwch chi’n gymwys ar gyfer ein cynllun cymhelldal dŵr wynebos oes gennych gynlluniau i atal dŵr wyneb rhag mynd i’r rhwydwaith dŵr gwastraff.
Generic Document Thumbnail

Canllawiau Cyn cynllunio

PDF, 393.1kB

Os oes arnoch angen canllawiau pellach am y cais hwn, cewch lawrlwytho'n nodiadau canllaw manwl yma.