Chwiliadau draenio a dŵr


Os ydych ar fin prynu neu werthu eiddo, mae'n debyg y byddwch eisiau cael adroddiad i ddangos p'un a yw’n cael ei wasanaethu gan brif bibell ddŵr neu garthffos gyhoeddus ac a oes unrhyw ran o’r seilwaith hwn wedi ei lleoli y tu mewn i ffiniau’r eiddo. Gelwir y math hwn o adroddiad yn ‘chwiliad draenio a dŵr’.

Mae cost y gwasanaeth yma ar ein rhestr taliadau sydd yma. Bydd angen cerdyn credyd neu ddebyd dilys arnoch i dalu wrth gyflwyno eich cais, ac ni ellir ad-dalu’r ffi yma.

Mae’r cais yma ar gyfer cwsmeriaid sydd angen un adroddiad ar chwiliad draeniau a dŵr. Os ydych chi’n debygol o fod angen sawl chwiliad draenio a dŵr y mis, cysylltwch â ni ar 0800 917 2652 i ofyn am gyfrif busnes.