Adeiladu ar ben neu'n agos at garthffosydd


Ein gwaith ni yw casglu dŵr wyneb a dŵr daear o gartrefi a busnesau ledled Cymru a rhannau o Loegr. Rydyn ni'n defnyddio ein rhwydwaith helaeth o bibellau carthffosiaeth i wneud hyn. Mae dros 30,000km ohonynt i gyd - digon i ymestyn i Awstralia a nôl!

Mae ein carthffosydd yn rhedeg o dan y ddaear ar draws ein hardal weithredol i gyd, o dan strydoedd a gerddi, caeau a thir. Felly os ydych chi'n ymestyn eich eiddo trwy godi estyniad neu dŷ haul, mae'n ddigon posibl bod yna bibell garthffosiaeth gerllaw.

Dyna pam y bydd angen i chi roi gwybod i ni os ydych chi'n bwriadu ehangu eich cartref dros ben carthffos gyhoeddus neu ddraen ochrol (neu o fewn tri metr i un o’r rhain) fel y gallwn sicrhau bod eich cartref, a'n pibellau, yn cael eu hamddiffyn yn ystod y gwaith adeiladu ac ar ôl hynny.

Wrth ddylunio eich cynnig, bydd angen i chi sicrhau eich bod chi'n gwybod a oes unrhyw brif bibellau dŵr, carthffosydd cyhoeddus neu ddraeniau ochrol ar eich tir. Dylech wneud hynny cyn dechrau fel y gall eich estyniad gael ei ddylunio â'n meini prawf mewn golwg. Yn ogystal â sicrhau proses ymgeisio ddidrafferth, bydd hyn yn osgoi oedi diangen a chostau ychwanegol.

Pryd na chewch adeiladu dros ben (neu o fewn tri metr i) un o'n carthffosydd?

Mae hi'n annhebygol y byddwn ni'n derbyn cais os yw diamedr mewnol y garthffos yn fwy na 225mm, neu os yw'r bibell yn ddyfnach na 3 metr. Yn yr achosion hyn, mae'n bosibl y bydd gofyn i chi gadw mwy na tri metr i ffwrdd wrth y garthffos gyhoeddus. Cysylltwch â ni a gallwn ni drafod yr opsiynau sydd ar gael â chi.

Os yw'r gwaith yn cynnwys ymestyn safle masnachol neu adeiladu strwythur newydd nad yw’n gysylltiedig â’r prif adeilad, bydd angen i chi ystyried gwyro'r garthffos. Gallwch gael rhagor o fanylion am wyro carthffosydd yma.

Beth am adeiladu dros ben prif bibell ddŵr neu garthffos dan bwysedd?

Nid ydym yn caniatáu i strwythurau gael eu hadeiladu dros ben neu'n agos at brif bibellau dŵr oherwydd y risgiau sy'n gysylltiedig â hynny. Os ffeindiwch chi bibell, mae hi'n bwysig eich bod chi'n cysylltu â ni ar 0800 9172652 i drafod y camau nesaf. Gallwch gael rhagor o fanylion am wyro prif bibellau dŵr yma.

Beth yw'r ddau brif fath o gais?

Mae dau fath o gais:

  • Hunanardystiad – Proses fyrrach lle gallwch 'hunanardystio' cyhyd â'ch bod chi'n bodloni meini prawf penodol o ran sut y byddwch yn amddiffyn ein carthffos wrth gyflawni’ch gwaith
  • Cais llawn – Proses fanylach, sy'n angenrheidiol ar gyfer gwaith mwy cymhleth neu risg uwch, sy'n cynnwys asesiad technegol o'ch cynigion gan ein tîm pwrpasol

Sut mae canfod pa fath o gais sydd ei hangen arnoch?

Mae ein nodiadau canllaw manwl yn fan cychwyn da, ac maen nhw'n cynnwys rhagor o fanylion am y ddau fath o ganiatâd a gynigiwn a beth y byddwn ni'n ei ganiatáu neu'n ei wrthod.

Bydd angen i chi wybod ymhle mae'r garthffos, ei diamedr mewnol, ei deunydd a'i dyfnder.

Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hunanardystio, gallwch lenwi ffurflen gais a byddwn ni'n anfon neges e-bost atoch i gadarnhau a yw'ch ffurflen wedi cael ei chymeradwyo ai peidio.

Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf hunanardystio, byddwn ni'n gofyn i chi lenwi cais llawn.

Beth fydd y gost?

Mae'r gost am adeiladu dros ben carthffos yn amrywio yn dibynnu ar y math o gytundeb sydd o dan sylw:

  • Os byddwn ni'n cydsynio i'ch cynllun ar ffurf llythyr, ac nad oes angen gwneud addasiadau i'n rhwydwaith, y gost fydd £113.46
  • Os byddwn ni'n cydsynio i'ch cynllun ar ffurf llythyr, a bod angen cwblhau gwaith addasu ar ein rhwydwaith, y gost fydd £456.29
  • Os byddwn ni'n cydsynio i'ch cynllun trwy gytundeb cyfreithiol, y gost fydd £523.77

Mae hyn yn cynnwys cost gweinyddu eich datganiad, cyflawni archwiliad o'r safle os oes angen, cymorth technegol, cydgysylltu â'r rheolwyr adeiladu neu eich arolygydd cymeradwy, a chyhoeddi eich llythyr cydsynio neu’ch cytundeb.

Am fanylion ein prisiau, ewch i'n rhestr brisiau yma.

A chofiwch

Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod chi’n cyflawni profion i ganfod lleoliad y carthffosydd cyn cloddio neu adeiladu.

Ni chewch ddechrau'r gwaith nes ein bod wedi cydsynio i'ch cais.

Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr pa fath o gais sy'n iawn i chi ar ôl darllen ein nodiadau canllaw, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n cysylltu â'ch adeiladwr neu'ch tîm dylunio am gymorth.

Ydych chi’n gwsmer sydd angen cymorth ychwanegol?

Os ydych chi’n addasu neu’n ymestyn eich eiddo i’w gwneud yn fwy hwylus i rywun â namau corfforol, rhowch wybod i ni yn adran ‘natur y cynnig’ ein ffurflen gais. Gallwn gynnig cymorth ychwanegol fel cymorth i lenwi eich cais a rhagor o gyngor a chymorth trwy’r broses adeiladu. I drafod eich cynigion, cysylltwch â’n tîm Adeiladu dros Garthffosydd ar 0800 917 2652.