Gwybodaeth i Gontractwyr am Iechyd a Diogelwch


Mae Dŵr Cymru’n rhoi pwyslais mawr ar Iechyd a Diogelwch ein staff a’n cynrychiolwyr, ynghyd â phobl eraill sydd â rheswm dros fynd i mewn i’n seilwaith a gweithio arno neu gerllaw iddo.

Os yw contractwyr yn dymuno mynd i mewn i’r rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus, mae’n rhaid iddynt ddangos yn gyntaf bod systemau a phrosesau iechyd a diogelwch priodol yn eu lle gan y cwmni er mwyn sicrhau bod eu staff yn gallu mynd i mewn i’n rhwydweithiau yn ddiogel. Byddwn yn gwneud ymholiadau i sicrhau bod y contractor yn aelod o un o’r sefydliadau sy’n rhan o broses achredu Safe Schemes in Procurement (SSIP) a gymeradwyir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Mae’r Awdurdod Gweithredol wedi dwyn nifer o gyrff achredu Iechyd a Diogelwch ynghyd o dan ymbarél yr SSIP. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn a’r sefydliadau sy’n aelodau ohono i’w chael trwy fynd i www.ssip.org.

Bydd y broses newydd hon yn sicrhau bod contractwyr yn gymwys a bod ganddynt y cymwysterau i fynd i mewn i’r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus yn ddiogel.

Sut y bydd y broses newydd yn gweithio

Pan gawn gais i gysylltu carthffos, byddwn yn bodloni ein hunain bod y contractor a benodir wedi’i achredu yn ôl y gofyn o dan yr SSIP. Bydd y cwsmer a’r contractor a benodir ganddo yn cael copi o’r llythyr cymeradwyo a fydd yn amlinellu’r camau nesaf yn y broses gysylltu.