Dargyfeirio, newid neu adael prif bibell ddŵr
Os ydych yn bwriadu dargyfeirio, newid neu adael prif bibell ddŵr neu gyfarpar ar dir y mae gennych fuddiant ynddo neu eich bod yn berchen arno, ni yw’r tîm i chi.
Os ydych yn dymuno gwella neu ddatblygu'r tir hwnnw, ac os byddai'r prif bibellau dŵr neu'r cyfarpar yn debygol o atal neu rwystro eich datblygiad, yna gallwch wneud cais am ei newid (a elwir hefyd yn ddargyfeiriad) neu ei dynnu.
Os nad ydych yn siŵr sut i lenwi'r ffurflen neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, darllenwch ein nodiadau canllaw yma.
Faint fydd y gost?
Mae dau daliad yn gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn:
Ffi ymgeisio cychwynnol
Ffi o'r bron na ellir ei had-dalu o £2,000+TAW yw hon, a rhaid ei thalu adeg cyflwyno'r cais gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd dilys. Pan fydd y gwaith wedi cael ei gwblhau, byddwn ni'n didynnu'r ffi ymgeisio o gost y gwaith gwyro, felly dim ond y gwahaniaeth y bydd angen i chi ei thalu.
Cost gwyro
Mae'r taliad hwn yn amrywio'n dibynnu faint o waith y mae angen ei gyflawni i wyro'r brif bibell ddŵr.
Os ydych chi'n gyngor neu'n awdurdod priffyrdd, gallewch wneud cais am wyriadau o dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd.
Fel cwmni nid-er-elw, mae ein prisiau'n seiliedig ar gost cyflawni'r gwasanaeth yn unig.
Am fanylion ein prisiau, ewch i'n rhestr brisiau yma.
Nodyn pwysig
- Yn unol â Deddf y Diwydiant Dŵr 1991, mae'n ddyletswydd arnom i ystyried pob cais rhesymol am ddargyfeiriad.
- Fodd bynnag, fel arfer, byddai dargyfeiriad a fyddai'n golygu na ellir defnyddio’r brif bibell ddŵr, neu’n golygu ei bod yn anhygyrch neu'n peri i’w pherfformiad waethygu, yn cael ei ystyried yn afresymol.