Dargyfeirio, newid neu adael carthffos gyhoeddus yn segur
Os ydych chi'n dymuno gwella neu ddatblygu tir yr ydych chi'n berchen arno, ac y byddai'r garthffos gyhoeddus yn debygol o atal neu rwystro eich datblygiad, yna mae gennych yr hawl i ofyn am ei newid neu ei thynnu. Ond nid yw hyn yn berthnasol i unrhyw garthffosydd ar briffyrdd neu ffyrdd cyhoeddus.
Pan ddaw eich ffurflen mynegiant o ddiddordeb i law, byddwn ni'n ystyried eich gofynion ac yn anfon neges bellach atoch a fydd yn cynnwys y pecyn angenrheidiol i gyflwyno cais. Llenwch y ffurflen gais a'i dychwelyd i ni trwy ei hanfon i developer.services@dwrcymru.com ynghyd â'r holl ddogfennaeth ategol angenrheidiol.
Pan fydd yr holl wybodaeth angenrheidiol gennym, bydd ein peirianwyr yn ystyried eich cais ac yn rhoi gwybod i chi a ydyn ni'n cydsynio i'ch awgrym cyn pen 28 diwrnod gwaith.
Os nad ydych chi'n siŵr sut i fynd ati i lenwi'r ffurflen mynegiant o ddiddordeb, neu os oes unrhyw gwestiynau gennych, darllenwch ein nodiadau canllaw.
Beth fydd y gost?
Mae yna ddwy ffordd wahanol o ddefnyddio'r gwasanaeth hwn:
Os penderfynir y gallwch gyflawni'r gwaith gwyro eich hun, a'i bod yn ddigon diogel i chi wneud hynny, mae'r broses yn debyg i fabwysiadu carthffosydd arfaethedig a ddisgrifir uchod. Mae dau daliad sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn:
Rydym yn codi ffi archwilio, sydd hefyd yn cynnwys gwiriadau technegol eich dyluniad, sy’n £769.13
Rydyn ni'n codi ffi gyfreithiol hefyd. Mae'r ffi yn dibynnu ar y math o ddogfennau sydd eu hangen, a beth y mae angen ei gofrestru gyda'r gofrestrfa tir. Er enghraifft, mae'r ffi am gytundeb gwyro, heb unrhyw Weithred Caniatáu Hawddfraint, yn dechrau ar lefel o £175.47.
Diogelir gwarant/bond yn rhan o'r cytundeb cyfreithiol hwn. Caiff y warant/bont ei ryddhau ar ôl cwblhau cyfnod cynnal a chadw yn llwyddiannus yn sgil cwblhau'r gwaith.
Os ydych chi am i ni gyflawni'r gwaith gwyro, neu os oes angen i ni gyflawni'r gwaith ar eich rhan oherwydd problemau gweithredol neu ddiogelwch, yna mae'r broses yn debyg i'r broses ar gyfer caffael carthffosydd. Mae dau daliad sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn:
Ffi ymgeisio gychwynnol:
Ffi o'r bron na ellir ei had-dalu o £2,500+TAW yw hon, a rhaid ei thalu adeg cyflwyno'r cais gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd dilys. Pan fydd y gwaith wedi cael ei gwblhau, byddwn ni'n didynnu’r ffi ymgeisio o'ch bil terfynol, felly dim ond y gwahaniaeth y bydd angen i chi ei thalu.
Cost gwaith wedi ei deilwra
Mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar faint o waith mae angen ei gyflawni i wyro ein hasedau. Gellir codi'r gost arnoch chi'n llwyr.
Nodyn pwysig
- Yn unol â Deddf y Diwydiant Dwr 1991, mae dyletswydd arnom i ystyried pob cais rhesymol am wyriad.
- Fodd bynnag, byddai gwyriad a fyddai'n golygu nad oes modd defnyddio neu gyrchu'r garthffos, neu a fyddai'n amharu ar ei pherfformiad, yn cael ei ystyried yn afresymol fel rheol.