Rwyf yn adeiladu cartref neu adeilad newydd


Os ydych chi'n adeiladu cartref newydd neu adeilad masnachol, mae sawl peth y mae angen i chi eu hystyried.

Ar gyfer cartrefi newydd neu eiddo masnachol (megis siop, swyddfa neu adeilad diwydiannol), oni bai eich bod yn bwriadu casglu dŵr glaw, mae'n debyg y bydd arnoch angen cysylltiad newydd â'n prif bibell ddŵr, yn ogystal â chysylltiad carthffos newydd i gael gwared â dŵr gwastraff.

Cysylltiad dŵr newydd

Yn y rhan fwyaf o ardaloedd adeiledig, ceir prif bibell ddŵr yn y ffordd neu'r droedffordd gerllaw y gallwn ei chysylltu â’ch eiddo. Ar gyfer ardaloedd mwy gwledig, mae’n bosibl y bydd y prif bibellau dŵr ymhellach i ffwrdd, sy'n golygu efallai y bydd angen i ni osod pibell newydd.

Ar gyfer adeiladau masnachol, os oes angen llawer o ddŵr arnynt, yn enwedig dŵr a ddefnyddir ar gyfer prosesu diwydiannol, efallai y bydd angen cysylltiad dŵr o faint mwy arnoch.

Gallwch ganfod rhagor yma.

Cysylltiad dŵr newydd ar gyfer taenellwyr dŵr

  • Nid yw hyn yn berthnasol oni bai eich bod chi’n adeiladu eiddo newydd neu'n gweddnewid eiddo sydd eisoes yn bodoli, yng Nghymru.
  • Yn 2011, gweithredodd Llywodraeth Cymru Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) gan wneud systemau taenellu dŵr yn orfodol ym mhob eiddo domestig newydd. Gallwch ganfod rhagor yma.

Cysylltiad carthffos newydd

Mewn ardaloedd trefol, yn aml, ceir carthffosydd cyhoeddus cyfagos y gallwch gysylltu â nhw. Mewn ardaloedd mwy gwledig, efallai y byddant ymhellach i ffwrdd.

Yng Nghymru, mae’n rhaid i'r rhan fwyaf o'r holl garthffosydd newydd gael eu mabwysiadu gennym cyn iddynt gael eu hadeiladu. Dysgwch ragor am gysylltiadau yma. Dysgwch ragor am fabwysiadu carthffosydd yma.

Draenio cynaliadwy

  • Dim ond i ddatblygiadau newydd sydd â mwy nag un adeilad neu ardal adeiladu o 100m2 neu fwy yng Nghymru y mae hyn yn berthnasol.
  • Bydd angen caniatâd gan Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (a elwir hefyd yn SAB) ar y datblygiadau newydd hyn ar gyfer unrhyw nodweddion SDCau newydd, yn ôl Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, cyn rhoi caniatâd cynllunio.
  • Gallwch ganfod rhagor yma.

Peidiwch ag anghofio

  • Efallai eich bod yn gymwys hefyd ar gyfer ein Cynllun cymhelldal dŵr wyneb os oes gennych gynlluniau i gael gwared â dŵr wyneb o'r rhwydwaith dŵr gwastraff.

Cyn i chi balu

  • Os ydych chi yn adeiladu ar dir, yna mae'n syniad da nodi a oes unrhyw rai o'n pibellau yn y ddaear yn gyntaf. Mae unrhyw ddifrod a achosir i'n pibellau yn drosedd o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
  • I gael gwybod a yw eich tir yn cynnwys unrhyw un o'n pibellau ni, cliciwch yma.