Hunan-osod
Os ydych chi'n adeiladu sawl eiddo ar safle lle bydd ffordd newydd, yna mae'n debygol y bydd angen prif bibell ddŵr newydd arnoch.
Mae ar y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd sydd â ffordd newydd angen prif bibell ddŵr newydd, a fydd yn cysylltu â'n rhwydwaith cyfredol. Bydd y brif bibell newydd yn gwasanaethu'r safle a chaiff pob eiddo ei gysylltu â'r brif bibell newydd trwy eu pibell gwasanaeth unigol eu hunain.
Mae yna ddwy ffordd o fynd ati i ymgeisio am brif bibell ddŵr newydd:
- Hunan-osod lle bydd contractwr hunan-osod achrededig yn adeiladu’r brif bibell ar eich rhan yn hytrach na ni
- Cais am brif bibell ddŵr lle byddwn ni’n adeiladu’r brif bibell i chi
Mae’r dudalen hon yn amlinellu’r opsiwn hunan-osod. Cliciwch yma am yr opsiwn cais am brif bibell ddŵr.
Beth fydd y gwasanaeth yn ei ddarparu?
Hunan-osod yw lle'r ydych chi'n dewis i gontractwr hunan-osod achrededig osod (ac weithiau dylunio) eich prif bibell ddŵr yn lle ni. Pan fydd eich contractwr hunan-osod wedi gosod y pibellau, byddwn ni'n sicrhau eu bod nhw'n bodloni ein telerau, ac yn eu mabwysiadu i'n rhwydwaith.
Os dewiswch ddefnyddio contractwr hunan-osod:
- cyn dechrau unrhyw waith, bydd angen i chi gychwyn cytundeb cyfreithiol gyda ni, perchennog y tir a'r darparydd hunan-osod (SLP)
- bydd angen i'r SLP fod ag achrediad Cynllun Cofrestru'r Diwydiant Dŵr (WIRS). Mae rhagor o wybodaeth am WIRS yma. O bryd i'w gilydd, gallwn dderbyn cwmnïau heb achrediad cyflawn, ond rydyn ni'n cadw'r hawl i asesu hyfedredd SLP os nad oes ganddynt achrediad WIRS.
- rhaid i chi ein diweddaru ar gynnydd ar bob cam o'r gwaith.
Beth fydd y gost?
Mae ambell i gost yn gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn:
- Ffi ymgeisio gychwynnol
- Ffi o'r bron na ellir ei had-dalu o £2,500+TAW yw hon. Rhaid ei thalu adeg cyflwyno'r cais gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd dilys. Ar ôl cwblhau'r gwaith, byddwn ni'n tynnu'r ffi ymgeisio o'ch taliad cyn datblygu, felly dim ond y gwahaniaeth y bydd angen ei dalu.
Yn achos gwaith hunan-osod, byddwn ni'n eich talu chi am wneud y gwaith er mwyn adlewyrchu'r incwm y byddwn yn ei gael o'r cynllun yn y dyfodol. Rydyn ni'n gwneud hyn trwy system o ddau daliad:
- Taliad cyn datblygu
- Taliad y bydd angen i chi ei wneud i ni cyn dechrau'r gwaith yw hwn.
- TNaill ai cost cyflawni'r gwaith na ellir ei wrthwynebu neu amcangyfrif o'r swm cyfnewid am gyflawni'r cynllun yw hwn, p'run bynnag yw'r lleiaf.
- TTâl amrywiol yw hwn yn dibynnu ar fanylion pob cynllun unigol.
- TYn y mwyafrif o achosion, caiff y swm ei ad-dalu gan ddarparydd hunan-osod achrededig (SLP) adeg cwblhau'r cynllun.
- Taliad asedau
- Taliad y byddwn yn ei wneud i chi neu'r SLP yw hwn. Mae'n adlewyrchu'r gost y byddai angen i ni ei thalu i'n contractwr am gyflawni'r gwaith (y gwaith y gellir ei wrthwynebu), minws y swm cyfnewid. Y swm cyfnewid yw'r gwahaniaeth rhwng incwm amcanestynedig y cynllun a chost cyflawni'r cynllun hwnnw.
- Byddwn ni’n ei dalu i chi ar ôl i ni fabwysiadu'r brif bibell ddŵr a chyflawni cyfrif terfynol i gyfrifo taliad terfynol yr ased. Byddwn ni'n gwneud taliadau ased interim lle bo'r cynllun wedi ei freinio mewn sawl cam.
- Er enghraifft, pe bai’r cynllun yn costio £10,000 i Ddŵr Cymru gyflawni’r gwaith ein hunain neu trwy ein contractwr fel rheol, a byddai’n gwarantu refeniw o £9,000 i ni yn y dyfodol. Cyfrifir y taliad ar sail £10,000 minws y gwahaniaeth o £1,000, a fyddai’n golygu taw £9,000+TAW fyddai’r taliad ased terfynol.
Am fanylion ein prisiau, darllenwch ein rhestr o daliadau.
Sut gallaf i wneud cais?
Os hoffech i ni wneud eich dyluniad ar eich rhan, ewch yn syth i’n ffurflen gais hunan-osod. Os ydych yn gwneud eich dylunio eich hun, bydd angen i chi gyflwyno ein ffurflen pwynt cysylltu cyn y cais hunan-osod i self.lay@dwrcymru.com.
I osgoi unrhyw oedi, pan fydd eich cynllun hunan-osod wedi symud i gam adeiladu, rhowch ddiweddariadau rheolaidd i ni am eich rhaglen. Mae angen cyflwyno’r ffurflenni ar waelod y dudalen hon ar yr amryw gamau adeiladu i self.lay@dwrcymru.com. Mae angen cyflwyno’r ffurflenni isod ar amryw gamau adeiladu i self.lay@dwrcymru.com.
Ble gallaf i droi i gael rhagor o wybodaeth?
- Mae ein nodiadau canllaw a'r canllawiau dylunio isod yn fan cychwyn da.
- Mae gan Water UK god ymarfer defnyddiol hefyd, gallwch ei lawrlwytho yma.
- Mae Lloyds Register yn cynnig offeryn chwilio defnyddiol ar gyfer gosodwyr hunan-osod ag achrediad Cynllun Cofrestru'r Diwydiant Dŵr (WIRS).
Nodiadau canllaw hunan-osod
PDF, 163.1kB
Canllawiau dylunio hunan-osod
PDF, 5.7MB