Cysylltiadau carthffos newydd


Os ydych chi’n adeiladu cartref neu ddatblygiad newydd, mae’n debyg y byddwch am gysylltu ag un o’n pibellau carthffosiaeth fel y gallwn gludo eich dŵr gwastraff i ffwrdd i’w drin, ei lanhau a’i ddychwelyd i’r amgylchedd.

Ar gyfer cartref neu adeilad

Os oes arnoch angen cysylltiad newydd â'n rhwydwaith carthffosydd, yna'r cam cyntaf yn y broses yw penderfynu a yw'r garthffos neu'r draen ochrol yr ydych yn ei gysylltu y tu allan neu y tu mewn i ffin eich eiddo.

Bydd y graffigyn hwn yn eich helpu i benderfynu ym mha gategori y mae eich eiddo yn perthyn:

Y tu allan i ffin eich eiddo

Os yw’r garthffos gyhoeddus y tu allan i ffin eich eiddo, mae'n debyg y bydd angen i chi drefnu cytundeb mabwysiadu cyn dechrau’r gwaith adeiladu oherwydd rheoliad Llywodraeth Cymru. Gelwir hyn yn gais ‘adran 104’ neu ‘a104’.

Beth i'w wneud os oes arnoch angen cytundeb mabwysiadu

Pan fo'r garthffos gyhoeddus y tu allan i ffin eich eiddo mae angen i chi wneud cais am ein cytundeb mabwysiadu. Ar ôl sicrhau'r cytundeb mabwysiadu, gallwch gyflwyno cais am gysylltiad newydd â'r garthffos.

Mae'r manylion yma.

Y tu mewn i ffin eich eiddo

Os yw'r garthffos gyhoeddus y tu mewn i ffin eich eiddo, yna nid oes angen cytundeb mabwysiadu arnoch. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gofyn i ni am gysylltiad newydd. Gelwir hyn yn gais ‘adran 106’ neu ‘a106’.

Os oes cwestiynau gennych am y broses, dylai ein canllawiau ar waelod y dudalen hon fod o gymorth.

Beth fydd y gwasanaeth yn ei ddarparu?

  • Byddwn ni'n archwilio eich cais er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'n canllawiau. Bydd hyn yn cynnwys ymweliad safle gan un o'n rheolwyr safle.

Faint o amser bydd hyn yn ei gymryd?

  • Byddwn ni naill ai'n cymeradwyo eich cais neu'n ei wrthod cyn pen 21 diwrnod.

Beth fydd y gost?

Un cysylltiad newydd â charthffos ar gyfer:

  • 1-25 eiddo (gall un cysylltiad wasanaethu sawl eiddo) - £207.
  • 26+ eiddo (gall un cysylltiad wasanaethu sawl eiddo) - £364.65.

Fel cwmni nid-er-elw, mae ein prisiau'n seiliedig ar gost cyflawni'r gwasanaeth yn unig.

Am fanylion ein prisiau, ewch i'n rhestr brisiau yma.

Cofiwch

  • Bydd angen i ni gymeradwyo unrhyw gysylltiadau newydd â charthffos gyhoeddus. Hyd yn oed os ydych yn ailddefnyddio cysylltiad carthffos sydd eisoes yn bodoli, bydd angen i ni ei gymeradwyo. Os nad ydym wedi rhoi ein caniatâd, yna rydych chi'n torri'r gyfraith.

Canllawiau ar gysylltiad newydd â charthffos

PDF, 198.9kB

Os oes arnoch angen arweiniad pellach am y cais hwn, cewch lawrlwytho'n canllawiau manwl yma.