Mabwysiadu systemau carthffosiaeth arfaethedig
Os ydych chi'n adeiladu cartref neu ddatblygiad newydd, mae'n debyg eich bod eisiau cysylltu ag un o'n pibellau carthffosiaeth fel y gallwn fynd â'ch dŵr gwastraff oddi yno i'w drin, ei lanhau a'i ddychwelyd i'r amgylchedd. Gelwir hyn yn gysylltiad carthffos.
Os ydych yn gwneud cais am gysylltiad carthffos newydd a bod y garthffos y tu allan i ffin eich eiddo, neu ei bod yn gwasanaethu mwy nag un adeilad, yna bydd angen i chi:
- ofyn i ni ymrwymo i gytundeb mabwysiadu gyda chi yn gyntaf, cyn i chi adeiladu
- adeiladu yr hyn a elwir yn ‘ddraen ochrol’, a fydd yn cysylltu eich eiddo â'n carthffos
Gallwch nodi a yw'r garthffos y tu allan ynteu y tu mewn i ffin eich eiddo drwy ymweld â'n tudalen cysylltu carthffosydd.
Ar gyfer eiddo unigol, gellir dod o hyd i'n nodiadau canllaw yma.
Ar gyfer eiddo lluosog, gellir dod o hyd i'n nodiadau canllaw yma.
Ar ôl i chi gael cyfle i ddarllen y nodiadau canllaw a phan fyddwch yn gyfforddus eich bod chi’n bodloni ein canllawiau ni, rhowch ragor o fanylion i ni am eich datblygiad drwy’r ffurflen gais. Gelwir y ffurflen gais hon hefyd yn gais ‘adran 104’ neu ‘a104’.
Yna, bydd aelod o'n tîm yn gallu cynnig cymorth a chyngor i chi.
Faint fydd y gost?
Mae'r taliadau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn yn ymrannu'n ffi archwilio, sy'n cynnwys gwaith archwilio technegol ar eich dyluniad, a ffi gyfreithiol i ddrafftio'r cytundeb cyfreithiol hefyd. Mae'r ffioedd hyn yn amrywio yn dibynnu ar fanion pob cynllun, ac nid ydym yn gofyn amdanynt nes ein bod wedi adolygu a derbyn eich dyluniad arfaethedig.
Yn achos carthffosydd newydd nad oes angen gorsaf bwmpio y gellir ei mabwysiadu arnynt, mae'r ffi archwilio'n seiliedig ar nifer yr eiddo fel a ganlyn:
£680.63 am un eiddo (draen ochrol)
£1,287.88 am 2-5 eiddo
£2,096.82 am 6-25 eiddo
£3,502.41 am fwy na 25 eiddo
Lle bo angen mabwysiadu gorsaf bwmpio newydd, mae'r ffi archwilio'n seiliedig ar nifer yr eiddo fel a ganlyn:
£3,001.76 am un eiddo (draen ochrol)
£3,609.01 am 2-5 eiddo
£4,417.95 am 6-25 eiddo
£5,823.54 am fwy na 25 eiddo
Mae'r ffi gyfreithiol yn dibynnu ar y math o ddogfennau sydd eu hangen, a beth y mae angen ei gofrestru gyda'r gofrestrfa dir. Er enghraifft, mae'r ffi am gytundeb draen ochrol yn unig, heb unrhyw Weithred Caniatáu Hawddfraint cysylltiedig, yn dechrau ar lefel o £205.32.
Diogelir gwarant/bond yn rhan o'r cytundeb cyfreithiol hwn. Mae'r warant/bond yn cael ei ryddhau ar ôl cwblhau'r cyfnod atebolrwydd am ddiffygion yn llwyddiannus yn sgil cwblhau'r gwaith.
Am fanylion ein prisiau, ewch i'n rhestr brisiau yma.
Rheoleiddiad y dylid bod yn ymwybodol ohono
- Mae'n debyg y bydd angen i unrhyw garthffosydd preifat newydd a fydd yn cysylltu â charthffos gyhoeddus gael eu mabwysiadu gennym.
- Yn unol â Deddf y Diwydiant Dŵr 1991, os ydych eisiau adeiladu draen ochrol er mwyn cysylltu â charthffos gyhoeddus sydd wedi ei lleoli y tu allan i ffin eich eiddo newydd, mae'n debyg y bydd angen i chi wneud cais am gytundeb mabwysiadu i ni cyn dechrau unrhyw waith gosod.
- Mae’n rhaid i garthffosydd gydymffurfio â'r safonau gorfodol a nodir yn Safonau Gweinidogion Cymru ar gyfer Carthffosydd Disgyrchiant a Draeniau Ochrol.
- Dylai carthffosydd dŵr wyneb a draeniau ochrol y gellir eu mabwysiadu gydymffurfio â'r safonau a nodir yn Canllawiau Dylunio ‘Carthffosydd i’w Mabwysiadu 7fed Rhifyn’.
- I gael rhagor o wybodaeth am reoliadau mabwysiadu carthffosydd, ewch i’n tudalen cymorth a chyngor yma.
Peidiwch ag anghofio
- Yn ogystal â gofyn inni fabwysiadu eich system garthffosiaeth newydd, bydd angen i chi wneud cais am gysylltiad carthffos.
Archebion am garthffosydd
Weithiau, nid oes gan eich cartref neu eich safle ffordd o ddraenio i garthffos gyhoeddus oherwydd bod tir sy'n eiddo i drydydd parti rhwng y safle a'r garthffos. Os na fydd y trydydd parti yn rhoi mynediad i chi i'r tir, yna gallwch ofyn yn ffurfiol (archebu) am garthffos gyhoeddus a/neu ddraen ochrol oddi wrthym ni.
Mwy o wybodeth ymaCyflwyno ein tîm cynllunio
Dyma'r tîm a'r ardaloedd daearyddol y maent yn gyfrifol amdanynt.
Darganfod mwy