Newidiadau i Gysylltu a Mabwysiadu Carthffosydd


Daeth newidiadau pwysig i rym o ran y broses cysylltu a mabwysiadu carthffosydd/draeniau ochrol ar 1 Hydref 2012.

Ar 1 Hydref 2012 rhoddodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth bwysig newydd ar waith a newidiodd yn sylweddol y ffordd y mae cysylltiadau newydd i’r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus yn cael eu rheoli ar draws ardal weithredu Dŵr Cymru gyfan.

O’r dyddiad hwn mae’n rhaid i bob carthffos a draen ochrol newydd y bwriedir iddynt gysylltu â'r rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus, gan gynnwys gorsafoedd pwmpio cysylltiedig, gael eu cynnwys yng Nghytundeb Mabwysiadu Adran 104 cyn dechrau eu hadeiladu neu cyn cymeradwyo cysylltiad carthffos. Pan fydd y cytundeb mabwysiadu carthffosydd ar waith, mae’n rhaid i Dŵr Cymru sicrhau bod y carthffosydd a'r draeniau ochrol yn cael eu mabwysiadu ar ôl hynny.

Bwriad y newidiadau yw gwella perfformiad a dibynadwyedd y rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus yn y tymor hir, gan leihau problemau yn y dyfodol a all achosi i garthffosydd orlifo mewn cartrefi, llygru nentydd ac afonydd a helpu i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn agored i unrhyw faich yn y dyfodol o ran cynnal rhwydweithiau carthffosiaeth preifat a’u gweithredu.

Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn dilyn trosglwyddo carthffosydd a draeniau ochrol preifat i Dŵr Cymru ar 1 Hydref 2011. Ar y dyddiad hwnnw trosglwyddwyd perchnogaeth y mwyafrif o garthffosydd a draeniau ochrol sy’n cysylltu â’r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus yn ardal weithredu Dŵr Cymru i’r cwmni. Trosglwyddwyd carthffosydd preifat hefyd ar 1 Ebrill 2013 ar gyfer carthffosydd a adeiladwyd ar ôl 1 Hydref 2011 a chyn 1 Hydref 2012 (gweithredu Safonau Gweinidogion Cymru).

Roedd hyn yn egluro perchnogaeth a chyfrifoldeb dros gynnal a chadw fel y gall ein cwsmeriaid bellach fod yn dawel eu meddwl y bydd Dŵr Cymru yn ymdrin ag unrhyw broblemau a all godi yn y rhwydweithiau carthffosiaeth.

Bwriad y newidiadau i'r broses cysylltu a mabwysiadu carthffosydd yw atal creu stoc newydd o garthffosydd a draeniau ochrol preifat, trwy gyflwyno'r ddarpariaeth fabwysiadu orfodol ar gyfer pob carthffos a draen ochrol newydd (gan gynnwys gorsafoedd pwmpio) sy'n mynd i gysylltu â rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus.

Mae Adran 42 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 wedi diwygio'r Ddeddfwriaeth sy'n rheoli pob cysylltiad newydd â'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus, Adran 106 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 drwy ychwanegu gofyniad newydd Adran 106B. Mae Adran 106B yn cyflwyno'r "Gofyniad i ymrwymo i gytundeb cyn adeiladu".

Erbyn hyn mae'n drosedd adeiladu/gosod carthffos neu ddraeniau ochrol cyn bod cytundeb mabwysiadu ar waith. Mae hyn yn berthnasol pa un a ydych yn cysylltu eiddo newydd neu un sy'n bodoli eisoes â'r rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus am y tro cyntaf, neu’n adeiladu datblygiad mawr. Yr unig eithriad i'r gofyniad hwn yw os yw’r cysylltiad newydd â'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus ar gyfer draen nad yw'n ymestyn y tu hwnt i ffin eiddo yn unig.

Nid yw carthffosydd dŵr wyneb newydd y bwriedir iddynt gysylltu â chwrs dŵr wedi'u cynnwys yn y gofyniad mabwysiadu gorfodol nac yn Safonau'r Gweinidog. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried rhagor o newidiadau deddfwriaethol trwy ddarpariaethau ychwanegol sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Atodlen 3 Draenio Cynaliadwy) a fydd yn newid y ffordd yr ydym yn ymdrin â dŵr wyneb yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Cyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i dderbyn a phrosesu ceisiadau i fabwysiadu carthffosydd dŵr wyneb ar gyfer carthffosydd nad ydynt yn cysylltu â'r rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus.

I gael rhagor o wybodaeth gefndirol am ddechrau Adran 42 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?

Bydd gwybodaeth fanylach yn cael ei chyhoeddi'n fuan. Ond os oes unrhyw beth y mae angen i chi ei ofyn i ni nawr, cysylltwch â ni yn mbsfaq@dwrcymru.com

Dyluniadau

$name

Sewer Adoption and Connection

Lawrlwytho
1.1MB, PDF

DCWW Addendum to Sewers for Adoption 7th Edition - March 2021

Lawrlwytho
396.9kB, PDF