Mabwysiadu systemau carthffosiaeth presennol
A oes gennych system garthffosiaeth breifat yr hoffech i ni ystyried ei mabwysiadu i'n rhwydwaith? Pan fydd wedi ei mabwysiadu, byddwn ni yn gyfrifol am ei chynnal a'i chadw.
Er i'r rhan fwyaf o garthffosydd a draeniau ochrol preifat gael eu mabwysiadu gennym yn 2011, roedd rhai ohonynt na throsglwyddwyd i'n perchnogaeth ni. Mae gennym ddyletswydd i fabwysiadu carthffosydd preifat pan fo’r holl bobl a wasanaethir gan y carthffosydd hynny yn dymuno inni wneud hynny.
Fodd bynnag, dim ond carthffosydd a draeniau ochrol sy'n cyrraedd safon benodol y gallwn eu mabwysiadu. Chi sy'n gyfrifol am unrhyw waith sydd angen ei wneud i sicrhau bod eich system garthffosiaeth yn cyrraedd y safon honno.
Darllenwch ein nodiadau canllaw i gael rhagor o wybodaeth ac i gael canllawiau ynghylch sut i lenwi'r ffurflen gais.
Faint fydd y gost?
Anaml iawn y mae angen defnyddio'r broses ar gyfer mabwysiadu carthffosydd cyfredol. Mae hynny yn sgil mabwysiadu carthffosydd preifat yn awtomatig yn 2011/13, a rhaid i unrhyw garthffosydd mabwysiadwy a grëwyd ers 2012 fod â chytundeb i fabwysiadu'r carthffosydd cyn eu hadeiladu.
Mae yna ddau dâl sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn, sy'n ymrannu'n ffi archwilio a ffi gyfreithiol. Mae'r ffioedd hyn yn amrywio yn ôl manion pob cynllun, ac maen nhw'n debyg i'r ffioedd ar gyfer mabwysiadu carthffosydd arfaethedig a ddisgrifir yma.
Fel cwmni nid-er-elw, mae ein prisiau'n seiliedig ar gost cyflawni'r gwasanaeth yn unig.
Am fanylion ein prisiau, ewch i'n rhestr brisiau yma.
Rheoleiddiad y dylid bod yn ymwybodol ohono
- Mae’n rhaid i'r rhan fwyaf o garthffosydd preifat gael eu mabwysiadu gennym ni, heblaw mewn rhai achosion.
- Os ydych yn dymuno adeiladu draen ochrol er mwyn cysylltu â charthffos gyhoeddus sydd wedi ei lleoli y tu allan i ffin eich eiddo newydd, mae'n rhaid i chi wneud cais bob tro am gytundeb mabwysiadu i ni cyn dechrau unrhyw waith.
- Er mwyn mabwysiadu carthffosiaeth arfaethedig, mae’n rhaid i chi ymrwymo i'r cytundeb mabwysiadu cyn dechrau adeiladu, yn unol â Deddf y Diwydiant Dŵr 1991. Ni chewch gysylltu â'r garthffos gyhoeddus os nad oes gennych gytundeb mabwysiadu ar waith.
- Mae’n rhaid i garthffosydd gydymffurfio â'r safon orfodol a nodir yn Safonau Gweinidogion Cymru ar gyfer Carthffosydd Disgyrchiant a Draeniau Ochrol.
- Dylai carthffosydd dŵr wyneb a draeniau ochrol y gellir eu mabwysiadu gydymffurfio â'r safonau a nodir yn Canllawiau Dylunio ‘Carthffosydd i’w Mabwysiadu 7fed Rhifyn’.