Arolygon canfod asedau a CCTV
Os ydych chi'n adeiladu ar dir, yna mae'n syniad da canfod a oes unrhyw bibellau gennym o dan y ddaear cyn cychwyn. Mae achosi difrod i'n pibellau'n drosedd o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
Un o'r ffyrdd y gallwch wneud hyn yw gofyn am arolwg canfod asedau neu arolwg CCTV o garthffosydd.
Beth fydd y gwasanaeth yn ei ddarparu?
Os ydych am ddod o hyd i leoliad carthffos, gallwch wneud cais am un o'n harolygon CCTV/canfod carthffos.
Os ydych am ddod o hyd i brif bibell ddŵr, mae'n bosibl y gallwn ddarparu gwasanaeth olrhain dangosol ar eich cyfer yn rhad ac am ddim. Dim ond lle bo modd canfod deunydd y brif bibell ddŵr gan ddefnyddio’n hoffer arolygu y gallwn wneud hyn. Felly dim ond os yw'r brif bibell ddŵr yn un metel y gellir cynnig y gwasanaeth.
Lle nad oes modd canfod pibell ddŵr trwy ddefnyddio dulliau ar ben y tir efallai y bydd angen i ni dorri tyllau arbrofi. Mae cost yr ymchwiliad hwn yn dibynnu ar leoliad y safle, ynghyd â math, maint a deunydd yr ased. Am fod pob arolwg yn unigryw, rhaid i'n peirianwyr asesu eich gofynion unigol fel eu bod yn gallu prisio'r gwaith mor fanwl â phosibl.
Os ydych am ddod o hyd i unrhyw un o'n hasedau eraill, gallwch wneud cais am ffurflen lleoli asedau gennym.
Faint o amser bydd hyn yn ei gymryd?
Am fod pob datblygiad ac ased yn wahanol, nid oes yna amserlen safonol ar gyfer y gwasanaeth yma.
Beth fydd y gost?
Os hoffech gael arolwg CCTV o garthffos ar gyfer eiddo domestig safonol (lle mae diamedr y garthffos yn llai na 225mm), codir tâl o £263.18+TAW. Fel uchod, gall ymarfer dangosol i olrhain pibell ddŵr fod yn rhad ac am ddim os yw'r brif bibell yn un metel, ond codir tâl fesul achos ar gyfer ymchwiliadau pellach. I ganfod asedau (ar gyfer asedau sydd y tu hwnt i gwmpas arolwg CCTV safonol mewn eiddo preswyl safonol), codir tâl fesul achos unigol.
Fel cwmni nid-er-elw, mae ein prisiau'n seiliedig ar gost darparu'r gwasanaeth yn unig. Am fanylion ein prisiau, darllenwch ein rhestr o daliadau yma.
Sut mae mynd ati i ymgeisio?
Ar gyfer arolygon CCTV/canfod carthffosydd a dod o hyd i asedau, llenwch y ffurflen berthnasol isod a'i hanfon i PlanandProtect@dwrcymru.com. I ganfod prif bibellau dŵr, e-bostiwch PlanandProtect@dwrcymru.com gan nodi eich manylion.