Cysylltiadau dŵr newydd – maint safonol
Os ydych chi'n adeiladu cartref neu eiddo masnachol newydd (fel siop, swyddfa neu adeilad diwydiannol), oni bai eich bod chi'n bwriadu cynaeafu dŵr glaw, mae'n debygol y bydd arnoch angen cysylltiad newydd â'n prif bibell ddŵr.
Beth fydd y gwasanaeth yn ei ddarparu?
Mae'r gwasanaeth yma ar gyfer cysylltiadau dŵr newydd a disodli hen gysylltiadau.
Mae'n bosibl y bydd arnoch angen cysylltiad dŵr newydd wrth:
- adeiladu eiddo newydd
- ychwanegu at adeilad sy’n bodoli eisoes (e.e. codi estyniad, cyfadeilad neu anecs)
- trefnu cyflenwad ar gyfer adeilad dros dro
- trosi adeilad yn nifer o unedau â chyflenwadau unigol
- trosi eiddo a oedd yn arfer cael ei ddefnyddio at ddiben gwahanol (er enghraifft, troi sgubor neu fodurdy yn dŷ/cartref)
- gosod offer atal tân (e.e. taenellwr tân)
- trefnu cyflenwad at ddibenion dyfrhau
- symud o gyflenwad preifat
Efallai y bydd arnoch angen cyflenwad dŵr amgen os:
- yw pwysedd eich dŵr yn isel a bod angen cyflenwad mwy arnoch
- ydych chi'n gwahanu cyflenwad a rennir
- ydych chi'n trosi eiddo yn nifer o unedau sy'n rhannu cyflenwad
Os oes unrhyw gwestiynau gennych am y broses, dylai ein nodiadau canllaw manwl ar waelod y dudalen hon fod o gymorth.
Faint o amser bydd hyn yn ei gymryd?
Mae yna sawl cam yn y broses newydd o drefnu cysylltiad dŵr newydd:
Beth fydd y gost?
Mae cost cysylltiad dŵr newydd yn cynnwys pedair cost gwahanol, sef:
1. Ffi ymgeisio gychwynnol
Ffi o'r bron na ellir ei had-dalu yw hon. Rhaid ei thalu adeg cyflwyno'r cais gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd dilys.
- Y pris am gysylltiad safonol yw £126.08+TAW y cais. Bydd y dyfynbris a gewch chi'n ddilys am chwe mis. Wedyn bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio newydd. I wneud cais am gysylltiad safonol, mewngofnodwch i'r porth ar waelod y dudalen hon.
2. Tâl cysylltu
- Ar gyfer cysylltiadau maint safonol, yn seiliedig ar faint o waith y mae angen ei gyflawni i'ch cysylltu â'n rhwydwaith dŵr, mae ein taliadau cysylltu'n amrywio o £480.66+TAW i £4,366.12+TAW. Mae'n bosibl y bydd yna ffioedd ychwanegol, er enghraifft lle bo angen ychwanegu metrau er mwyn ymestyn y bibell wasanaeth i'r pwynt cysylltu. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar dudalen 9 ymlaen yn ein rhestr o daliadau. Dim ond lle nad yw'r eiddo wedi ei heithrio rhag TAW y bydd angen ychwanegu TAW at y swm.
- Yn achos cysylltiadau mwy, byddwn ni'n llunio dyfynbris pwrpasol. Dim ond lle nad yw'r eiddo wedi ei heithrio rhag TAW y codir TAW.
3. Tâl seilwaith dŵr
Tâl untro yw hwn:
- £512 yr eiddo am gysylltiad safonol
- £512 x y lluosrif perthnasol am gysylltiadau mwy (mae manylion ein lluosrifau ar dudalennau 22-23 o'r rhestr taliadau)
4. Tâl seilwaith gwastraff
Tâl untro yw hwn sy'n cael ei bennu gan ein rheoleiddiwr, Ofwat. Mae'n berthnasol i eiddo sy'n cysylltu â'n system garthffosiaeth hefyd ac sy'n dewis cael cysylltiad dŵr safonol newydd:
- £512 yr eiddo am gysylltiad safonol
- £512 x y lluosrif perthnasol am gysylltiadau mwy (mae manylion ein lluosrifau ar dudalennau 22-23 o'r rhestr taliadau)
Am fanylion ein prisiau, darllenwch ein rhestr o daliadau yma.
Gweler cost ddangosol ar gyfer eich cysylltiad dŵr newydd. Dewiswch faint eich cysylltiad:
1. Dewiswch faint cysylltiad
Gweler cost ddangosol ar gyfer eich cysylltiad dŵr newydd. Dewiswch faint eich cysylltiad:
Nodiadau canllaw ar gysylltiadau dŵr newydd
PDF, 340.5kB
Byddem yn cynghori pawb i ddarllen ein nodiadau canllaw manwl yma cyn cyflwyno cais