Ein porth datblygu newydd
Yn cyflwyno ein porth ar lein newydd a gwell, a fydd yn lansio ar 12 Hydref 2020.
Yn Dŵr Cymru Welsh Water, rydyn ni'n ymdrechu i wella ein perfformiad bob un dydd. Un o'n dulliau o wneud hyn yw gwrando ar ein cwsmeriaid a newid ein gwasanaethau ar sail eu hadborth.
Ochr yn ochr ag adborth ein cwsmeriaid, rydyn ni wedi ymrwymo i wella eich profiadau... Dyma ni’n cyflwyno ein porth ar-lein newydd sydd wedi cael ei ddylunio â'ch anghenion chi mewn golwg. Rydyn ni wedi buddsoddi'n helaeth yn y system arloesol yma, a nawr, am y tro cyntaf, gallwch weld a chyflwyno ceisiadau, a thracio eu datblygiad ag un clic.
Gwyliwch ein fideo byr sy'n esbonio manteision y porth newydd:
Cwestiynau cyffredin am y porth newydd
Gallwch wneud cais am y pum gwasanaeth isod drwy’r porth a thracio’r ceisiadau hyn wrth i’w statws newid.
- Cysylltiad carthffos newydd
- Cysylltiad dŵr newydd
- Mabwysiadu carthffos gyhoeddus
- Dargyfeirio carthffos gyhoeddus
- Adeiladu dros garthffos
Gellir gwneud cais o hyd am wasanaethau eraill ar-lein drwy’r ffurflenni cais pwrpasol ond nid drwy’r porth.
Bydd angen i chi gofrestru am gyfrif ar y porth trwy ein gwefan gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost. Yn gyntaf, bydd angen i chi ddilysu eich cyfeiriad e-bost. Byddwn ni'n anfon neges e-bost awtomatig atoch sy'n cynnwys cod dilysu. Nodwch y cod dilysu yn y ffenestr gofrestru, wedyn cewch ddewis eich cyfrinair a chreu eich cyfrif ar-lein.
Os nad ydych am ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost, gallwch gofrestru gan ddefnyddio’ch cyfrif cyfryngau cymdeithasol.
Ar ôl cofrestru ar gyfer cyfrif ar lein, gall gymryd hyd at 24 awr i'ch ceisiadau ymddangos ar y porth.
Cewch. Rydyn ni'n dal i dderbyn ceisiadau ar ffurf copi caled trwy'r post. Gallwch lawrlwytho copïau caled o'r ffurflenni cais trwy’r porth. Llenwch y ffurflenni a'u hanfon i Dŵr Cymru Welsh Water, Blwch SB 3146, Linea, Heol Fortran, Caerdydd, CF30 0EH. Os ydych chi'n anfon y ffurflenni trwy'r post, cofiwch gynnwys eich taliad, gan ei wneud yn daladwy i Dŵr Cymru Welsh Water. Os nad ydych chi'n talu'r ffi postio gywir, gallai'r Swyddfa Bost ddychwelyd eich ffurflen gais, felly cofiwch ddilysu'r pwysau a'r pris postio ymlaen llaw.
Pan fyddwch chi’n mewngofnodi i'ch cyfrif ar lein, fe welwch chi far statws ar gyfer pob proses ymgeisio, a bydd hyn yn dangos ymhle’r ydych chi ar bob cam o'r ffordd.
Cewch weld sut mae’ch ceisiadau’n datblygu bob amser trwy fewngofnodi i'ch cyfrif. Bydd ein tîm yn cysylltu â chi i drafod eich cynigion ac i ofyn am wybodaeth bellach i ategu eich cais.
Ein holl gwsmeriaid gwasanaethau datblygu. Mae hyn yn cynnwys darparwyr hunan-osod, datblygwyr mawr a bach, ymgynghorwyr a pherchnogion cartrefi (sy'n cyflwyno cais am un cytundeb adeiladu ar ben carthffos er enghraifft).
Gallwch wneud taliadau trwy'r porth yn gyflym ac yn rhwydd. Neu gallwch wneud taliadau trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys â siec, trwy BACS, dros y ffôn neu trwy'r porth.
Cewch. Cliciwch ar y botwm canslo achosion.
Ni fydd yr holl geisiadau a gyflwynwyd cyn 12 Hydref 2020 i’w gweld ar eich cyfrif porth, fodd bynnag byddwch yn gallu parhau i gysylltu â’n tîm o hyd i ddatblygu’ch cais, drwy gysylltu â ni ar 0800 917 2652 neu developer.services@dwrcymru.com.