Adeiladu dros garthffosydd, neu’n agos atynt
Os ydych yn bwriadu adeiladu dros, neu o fewn tri metr i un o'n pibellau carthffosydd neu ddraeniau ochrol, bydd angen i chi roi gwybod i ni – fel y gallwn ystyried eich cynnig.
Byddem yn argymell i'n holl gwsmeriaid lenwi'r ffurflen hunanardystio’n gyntaf.
Os ydych chi wedi llenwi'r ffurflen yn barod ond nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf, yna bydd angen i chi lenwi'r cais llawn yma, sy'n ffurflen fwy manwl.
Pan fyddwch wedi llenwi'r cais llawn, gallwn naill ai roi caniatâd i chi ar ffurf llythyr caniatâd ffurfiol, neu byddwn ni'n rhoi caniatâd i chi ar ffurf contract cyfreithiol. Yn y naill achos a'r llall, byddwn ni'n cysylltu i esbonio'r sefyllfa i chi.
Faint o amser bydd hyn yn ei gymryd?
- Pan ddaw eich cais i law, ein nod fydd ymateb cyn pen 14 diwrnod gwaith.
- O dan rai amgylchiadau, mae'n bosibl y bydd angen rhagor o wybodaeth arnom cyn y gallwn benderfynu a gaiff y prosiect fynd yn ei flaen, neu a oes angen diwygio'ch cynigion er mwyn sicrhau y gellir amddiffyn y garthffos.
- Er mwyn osgoi oedi, mae hi'n bwysig eich bod chi'n cyflwyno'r holl wybodaeth y gofynnir amdani.
Wrth lenwi'r ffurflen isod bydd angen i chi ddarparu:
- Plan o'r lleoliad ar raddfa 1:500 - Dylech farcio'r cynllun fel a ganlyn: Ffin yr eiddo mewn gwyrdd, ardal yr estyniad mewn pinc, carthffos gyhoeddus mewn coch
- Plan cyfredol ac arfaethedig i raddfa sy'n dangos union leoliad y garthffos gyhoeddus - Dylai'r rhain ddangos yn glir y math o sylfeini a fwriedir, a diamedr mewnol a deunydd y garthffos
- Darluniau sy'n dangos y berthynas rhwng y garthffos a'r sylfeini newydd - Dylai hyn gynnwys dyfnder y garthffos a'r sylfeini newydd
- A yw'r eiddo dan Rydd-daliad neu Les-ddaliad? - Os yw'r eiddo dan les-ddaliad, ni ellir rhoi caniatâd oni bai bod deiliad y rhydd-ddaliad yn rhan o'r cytundeb neu'n darparu caniatâd ysgrifenedig.
Ydych chi’n gwsmer sydd angen cymorth ychwanegol?
Os ydych chi’n addasu neu’n ymestyn eich eiddo i’w gwneud yn fwy hwylus i rywun â namau corfforol, rhowch wybod i ni yn adran ‘natur y cynnig’ ein ffurflen gais. Gallwn gynnig cymorth ychwanegol fel cymorth i lenwi eich cais a rhagor o gyngor a chymorth trwy’r broses adeiladu. I drafod eich cynigion, cysylltwch â’n tîm Adeiladu dros Garthffosydd ar 0800 917 2652.