Cysylltiadau carthffos newydd
Os ydych chi’n adeiladu cartref neu ddatblygiad newydd, mae’n debyg y byddwch am gysylltu ag un o’n pibellau carthffosiaeth fel y gallwn gludo eich dŵr gwastraff i ffwrdd i’w drin, ei lanhau a’i ddychwelyd i’r amgylchedd.
Os ydych chi wedi defnyddio ein gwasanaethau ni o’r blaen neu os oes gennych chi gytundeb mabwysiadu gyda ni eisoes, yna does dim angen i chi boeni am ateb y cwestiynau isod, ewch yn syth i’n ffurflen mynegi diddordeb yma.
1. Ydych chi’n bwriadu cysylltu llifoedd dŵr budr neu ddŵr wyneb â’r garthffos gyhoeddus? Dŵr Wyneb
Os nad ydych chi wedi defnyddio ein gwasanaethau datblygwyr o’r blaen, yna drwy lenwi’r cwestiynau isod byddwn ni’n gallu eich cyfeirio at y man cywir ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnoch chi.
Ar gyfer cytundebau mabwysiadu presennol, byddwn ni’n anfon y cais am gysylltiad newydd â’r garthffos atoch chi’n awtomatig cyn gynted ag y bydd y cytundeb cyfreithiol wedi’i gwblhau.
2. Ydych chi’n bwriadu gwneud cysylltiad parhaol neu gysylltiad ag uned les dros dro? Parhaol
Diolch am eich diddordeb. Os nad oes gennych gadarnhad o gytundeb blaenorol i gysylltu dŵr wyneb â’r garthffos gyhoeddus neu gydsyniad y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB), gallai hyn achosi i’ch cais gael ei wrthod.
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ei gymeradwyo, rydym yn argymell eich bod chi’n cael y cytundeb angenrheidiol neu gymeradwyaeth SAB yn gyntaf ac yna’n dod yn ôl i orffen gweddill y broses ymgeisio. Os bydd angen mwy o help arnoch chi, cysylltwch â ni ar y rhif isod.
Os oes gennych chi gymeradwyaeth SAB, symudwch ymlaen i’r cwestiwn nesaf isod.
Rhowch alwad i ni
Os byddai’n well gennych siarad â ni dros y ffôn, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion isod
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5:00pm
3. Oes gennych chi ganiatâd cynllunio? Amherthnasol (For example Permitted Development)
4. Os yw’ch hysbysiad o benderfyniad cynllunio yn cynnwys amod draenio cyn cychwyn, a yw hyn wedi’i gyflawni? Nac oes
Ceir enghraifft o amod cyn cychwyn isod.
Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn cychwyn nes bod cynllun draenio ar gyfer y safle wedi’i gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig ganddo. Bydd y cynllun yn darparu ar gyfer gwaredu dŵr budr, dŵr wyneb a dŵr tir, ac yn cynnwys asesiad o’r potensial i waredu dŵr wyneb a dŵr tir drwy ddulliau cynaliadwy. Ar ôl hynny, caiff y cynllun ei weithredu yn unol â’r manylion cymeradwy cyn i’r datblygiad gael ei feddiannu ac ni chaniateir i unrhyw ddŵr budr, dŵr wyneb na draeniad tir gael ei gysylltu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â’r system garthffosiaeth gyhoeddus.
5. Sylwer
Yn rhan o’r broses o wneud cais bydd angen i chi roi tystiolaeth bod gennych ganiatâd cynllunio ar gyfer eich datblygiad. Ffoniwch ni i drafod neu arhoswch tan eich bod wedi cael caniatâd cynllunio cyn cyflwyno eich cais.
Byddwn ni'n archwilio eich cais er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'n canllawiau. Bydd hyn yn cynnwys ymweliad safle gan un o'n rheolwyr safle.
Byddwn ni naill ai'n cymeradwyo eich cais neu'n ei wrthod cyn pen 21 diwrnod.
Un cysylltiad newydd â charthffos ar gyfer:
- 1-25 eiddo (gall un cysylltiad wasanaethu sawl eiddo) - £275.31.
- 26+ eiddo (gall un cysylltiad wasanaethu sawl eiddo) - £374.01.
Fel cwmni nid-er-elw, mae ein prisiau'n seiliedig ar gost cyflawni'r gwasanaeth yn unig. Am fanylion ein prisiau, ewch i'n rhestr brisiau yma.
Bydd angen i ni gymeradwyo unrhyw gysylltiadau newydd â charthffos gyhoeddus. Hyd yn oed os ydych yn ailddefnyddio cysylltiad carthffos sydd eisoes yn bodoli, bydd angen i ni ei gymeradwyo. Os nad ydym wedi rhoi ein caniatâd, yna rydych chi'n torri'r gyfraith.
Canllawiau ar gysylltiad newydd â charthffos
PDF, 198.9kB