Cysylltiadau dŵr newydd – maint safonol
Os ydych chi'n adeiladu cartref neu eiddo masnachol newydd (fel siop, swyddfa neu adeilad diwydiannol), oni bai eich bod chi'n bwriadu cynaeafu dŵr glaw, mae'n debygol y bydd arnoch angen cysylltiad newydd â'n prif bibell ddŵr.
Mae'n bosibl y bydd arnoch angen cysylltiad dŵr newydd wrth:
- adeiladu eiddo newydd
- ychwanegu at adeilad sy’n bodoli eisoes (e.e. codi estyniad, cyfadeilad neu anecs)
- trefnu cyflenwad ar gyfer adeilad dros dro
- trosi adeilad yn nifer o unedau â chyflenwadau unigol
- trosi eiddo a oedd yn arfer cael ei ddefnyddio at ddiben gwahanol (er enghraifft, troi sgubor neu fodurdy yn dŷ/cartref)
- gosod offer atal tân (e.e. taenellwr tân)
- trefnu cyflenwad at ddibenion dyfrhau
- symud o gyflenwad preifat
Efallai y bydd arnoch angen cyflenwad dŵr amgen os:
- yw pwysedd eich dŵr yn isel a bod angen cyflenwad mwy arnoch
- ydych chi'n gwahanu cyflenwad a rennir
- ydych chi'n trosi eiddo yn nifer o unedau sy'n rhannu cyflenwad
Os oes unrhyw gwestiynau gennych am y broses, dylai ein nodiadau canllaw manwl ar waelod y dudalen hon fod o gymorth.
Faint o amser bydd hyn yn ei gymryd?Mae yna sawl cam yn y broses newydd o drefnu cysylltiad dŵr newydd:
1. Gwneud cais
Byddwn yn adolygu eich cais o fewn 5 diwrnod gwaith ac efallai y byddwn yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth. Er mwyn osgoi oedi, gwnewch yn siŵr bod y ffi cais wedi’i thalu.
2. Gwerthuso
Byddwn yn anfon dyfynbris atoch yn dweud wrthych faint y bydd y cysylltiad yn ei gostio o fewn 28 diwrnod.
3. Adeiladu
Bydd angen i chi dalu'r dyfynbris, cloddio'r ffos a gosod y bibell gyflenwi.
4. Archwilio
Bydd angen i chi gysylltu â ni i drefnu archwiliad ffosydd y byddwn yn anelu at ei gwblhau mewn 5 diwrnod gwaith.
Hunan-ardystio
Mae hyn yn caniatáu i gontractwyr cymeradwy archwilio a llofnodi eu gosodiadau ffosydd eu hunain heb aros i arolygydd Dŵr Cymru ddod i’r safle. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
5. Cysylltiad
Byddwn yn adeiladu'r blwch terfyn ac yn eich cysylltu o fewn 21 diwrnod (er y bydd hyn yn cymryd mwy o amser os bydd angen i ni wneud gwaith yn y briffordd).
Beth fydd y gost?Mae cost cysylltiad dŵr newydd yn cynnwys pedair cost gwahanol, sef:
1. Ffi ymgeisio gychwynnol
Ffi o'r bron na ellir ei had-dalu yw hon. Rhaid ei thalu adeg cyflwyno'r cais gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd dilys.
- Y pris am gysylltiad safonol yw £148.74+TAW y cais. Bydd y dyfynbris a gewch chi'n ddilys am chwe mis. Wedyn bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio newydd. I wneud cais am gysylltiad safonol, mewngofnodwch i'r porth ar waelod y dudalen hon.
2. Tâl cysylltu
- Ar gyfer cysylltiadau maint safonol, mae’r costau’n cael eu paratoi’n unigol ac yn seiliedig ar faint o waith y mae angen ei gyflawni i’ch cysylltu chi â’n rhwydwaith dŵr. Mae pob cysylltiad yn cael ei greu fesul achos unigol gan ddefnyddio’r prisiau sydd wedi eu nodi yn y rhestr taliadau. Gallai fod yna ffioedd ychwanegol hefyd, fel lle mae angen metrau ychwanegol i dynnu’r bibell wasanaeth i’r pwynt cysylltu. Mae rhagor o fanylion am hyn o dudalen 9 ymlaen ar ein rhestr taliadau. Dim ond lle nad yw’r eiddo wedi ei eithrio rhag TAW y codir TAW.
- Yn achos cysylltiadau mwy, byddwn ni'n llunio dyfynbris pwrpasol. Dim ond lle nad yw'r eiddo wedi ei heithrio rhag TAW y codir TAW.
3. Tâl seilwaith dŵr
Tâl untro yw hwn:
- £541 yr eiddo am gysylltiad safonol
- £541 x y lluosrif perthnasol am gysylltiadau mwy (mae manylion ein lluosrifau ar dudalennau 22-23 o'r rhestr taliadau)
4. Tâl seilwaith gwastraff
Tâl untro yw hwn sy'n cael ei bennu gan ein rheoleiddiwr, Ofwat. Mae'n berthnasol i eiddo sy'n cysylltu â'n system garthffosiaeth hefyd ac sy'n dewis cael cysylltiad dŵr safonol newydd:
- £541 yr eiddo am gysylltiad safonol
- £541 x y lluosrif perthnasol am gysylltiadau mwy (mae manylion ein lluosrifau ar dudalennau 22-23 o'r rhestr taliadau)
Am fanylion ein prisiau, darllenwch ein rhestr o daliadau yma.
Gweld cost ddangosol ar gyfer eich cysylltiad dŵr newydd drwy ddewis maint eich cysylltiad. Sylwch, nid yw hwn yn gais ffurfiol am wasanaethau dŵr.
1. Dewiswch faint cysylltiad 32mm
Gweler cost ddangosol ar gyfer eich cysylltiad dŵr newydd. Dewiswch faint eich cysylltiad:
Nodiadau canllaw ar gysylltiadau dŵr newydd
PDF, 340.5kB
Byddem yn cynghori pawb i ddarllen ein nodiadau canllaw manwl yma cyn cyflwyno cais