Geirfa Dechnegol
Geirfa Dechnegol i’w defnyddio ar y cyd â’r Ddogfennaeth SFA7, Deddf y Diwydiant Dŵr (WIA) 1991 a’r arferion gwaith cyffredinol o dan y Safonau Adeiladu Gorfodol (MBS).
Adran 102: HY mecanwaith cyfreithiol yn y Ddeddf, lle gall yr Ymgymerwr wneud datganiad i fabwysiadu offer carthffosiaeth.
Awdurdodiad Adran 106: ACymeradwyaeth ffurfiol gan Ddŵr Cymru i awdurdodi cysylltiad â’r system garthffosiaeth gyhoeddus.
Bond: Cytundeb ysgrifenedig y gellir ei orfodi’n gyfreithiol sy’n rhwymo person neu bobl i dalu swm o arian.
Caniatâd Rhyddhau: Cyn rhyddhau unrhyw ddŵr wyneb neu elifiant o weithfeydd trin dŵr gwastraff neu orlif carthffos gyfun i gwrs dŵr, mae angen cael caniatâd perchennog glannau’r afon. Lle bo’r cwrs dŵr yn ‘brif afon’, mae angen cael caniatâd Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd.
Carthffos: Dyfrbibell a ddefnyddir i gludo elifiant carthion. (Ystyr yn WIA) – a ddefnyddir i ddraenio adeiladau ac ierdydd perthynol adeiladau.
Carthffos Gyfun: Carthffos sy’n casglu ac yn cludo carthion budr a dŵr wyneb.
Carthffos Gyhoeddus: Carthffos, sy’n gwasanaethu o leiaf dau eiddo, sydd wedi cael ei adeiladu gan yr ymgymerwr statudol neu sydd wedi cael ei mabwysiadu fel carthffos gyhoeddus neu a gafodd ei dynodi fel carthffos gyhoeddus cyn 1937 neu ei throsglwyddo i’r ymgymerwr o dan fecanwaith statudol.
Carthffosiaeth: System o bibellau a’r seilwaith cysylltiedig ar gyfer casglu, cludo a thrin dŵr gwastraff a dŵr wyneb.
Carthion: Gwastraff sy’n cael eu gludo mewn dŵr, ar ffurf sylwedd neu ddaliant.
Contractwr Ardystiedig: Mae Contractwyr Ardystiedig Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hasesu o dan ein gweithdrefn ar gyfer cymeradwyo contractwyr allanol am eu gallu i gyflawni cysylltiadau â charthffosydd cyhoeddus.
Cwrtil: Ymadrodd cyfreithiol a ddefnyddir yn gyffredin i olygu ffin eiddo.
Cyfnod Cywiro Diffygion: Y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r Dystysgrif Freinio ac sy’n dod i ben gyda’r Dystysgrif Derfynol.
Cytundeb Adran 104: Cytundeb gorfodol rhwng datblygwr a Dŵr Cymru i fabwysiadu offer carthffosiaeth.
Cytundeb Adran 185: Cytundeb rhwng Dŵr Cymru a datblygwr i wyro carthffos gyhoeddus (gweler A185 o WIA am ddiffiniad pellach).
Datganiad Breinio: Dyma’r ddogfen gyfreithiol sy’n cadarnhau bod ased wedi cael ei fabwysiadu fel ased cyhoeddus gan ymgymerwr statudol.
Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 (WIA91): Dyma’r ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n pennu sut y caiff y cwmnïau dŵr eu penodi a’u rheoleiddio, ac sy’n esbonio eu pwerau a’u dyletswyddau.
Dibenion Domestig:
a)Mewn perthynas â chyflenwi dŵr i eiddo, mae hyn yn golygu’r dŵr a gyflenwir i’r eiddo o dan sylw at ddibenion yfed, golchi, coginio, gwres canolog a hylendid.
b)Mewn perthynas â charthion, mae hyn yn golygu gwaredu cynnwys tai bach, dŵr a ddefnyddiwyd i goginio neu olchi a dŵr wyneb o’r eiddo a’r tir cysylltiedig.
Diffygion: Mae hyn yn cynnwys diffygion yn neunyddiau neu adeiladwaith y Gwaith ac mae’n cynnwys unrhyw ddifrod i’r Gwaith sy’n codi cyn cyhoeddi’r Dystysgrif Derfynol. Dylid dehongli “Diffygiol” yn unol â hyn.
Draen: Mae Contractwyr Ardystiedig Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hasesu o dan ein gweithdrefn ar gyfer cymeradwyo contractwyr allanol o ran eu cymhwysedd i wneud cysylltiadau â’r carthffosydd cyhoeddus.
Draen Ochrol: Y rhan o’r draen sy’n ymestyn y tu hwnt i ffin yr eiddo er mwyn cysylltu â’r garthffos gyhoeddus.
Draenio at Ddibenion Carthffosiaeth Domestig: Mae Contractwyr Ardystiedig Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hasesu o dan ein gweithdrefn ar gyfer cymeradwyo contractwyr allanol o ran eu cymhwysedd i wneud cysylltiadau â’r carthffosydd cyhoeddus.
Draenio dŵr wyneb: Gwaredu dŵr glaw o ardaloedd allanol eiddo (fel toeau a mannau parcio).
Dŵr Gwastraff: Gweler Carthion.
Dŵr wyneb: Dŵr ffo o law sy’n disgyn ar eiddo (fel toeau, llwybrau a mannau parcio). Nid yw’r ymgymerwr carthffosiaeth yn gyfrifol am ddŵr wyneb o ffynonellau eraill, gan gynnwys priffyrdd a thir amaethyddol.
Dwythell (yng nghyd-destun cysylltiad dŵr): Mae Contractwyr Ardystiedig Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hasesu o dan ein gweithdrefn ar gyfer cymeradwyo contractwyr allanol o ran eu cymhwysedd i wneud cysylltiadau â’r carthffosydd cyhoeddus.
Elifiant: Hylif, gan gynnwys gronynnau o fater a sylweddau eraill mewn daliant yn yr hylif.
Elifiant Masnachol: Ystyr elifiant masnachol yw unrhyw hylif sy’n cael ei gynhyrchu yng nghwrs unrhyw fasnach neu ddiwydiant sy’n cael ei gyflawni ar eiddo (ond nid yw’n cynnwys carthion sydd wedi ei ddiffinio o dan draenio at ddibenion domestig).
Maich: Person neu gorff sy’n indemnio’r ymgymerwr ac yn cytuno i fod yn gyfrifol am ddyled neu rwymedigaeth un arall e.e. y gorfforaeth, partneriaeth, neu unigolyn, sy’n cyflawni’r bond.
Gorlif Carthffos Gyfun (CSO):Strwythur hydrolig sy’n caniatáu i garthffos gyfun rhyddhau gorlif pan fo’n mynd y tu hwnt i’w gynhwysedd (mewn stormydd trwm fel arfer). Ei bwrpas yw cyfyngu ar lif y system garthffosiaeth i lawr o’r CSO er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o orlifo mewn mannau sensitif.
Gorsaf Bwmpio (Carthffosiaeth): Gosodiad ar gyfer pwmpio carthion budr neu gyfun neu ddŵr wyneb pan na all carthffosydd disgyrchiant arferol ddraenio ardal neu eiddo
Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff: Cyfleuster ar gyfer prosesu a thrin carthion.
Hawddfraint: Hawl gyfreithiol dros eiddo rhywun arall, a all gynnwys gosod pibellau ar y tir hwnnw ac sy’n caniatáu mynediad at ddibenion archwilio, trwsio a chynnal-a-chadw ased ymgymerwr statudol.
Hysbysiad: A gyflwynir fel arfer ar ffurf ysgrifenedig.
Modelu Hydrolig: Ymarfer mathemategol ar gyfrifiadur sy’n defnyddio’r wybodaeth am lif a gasglwyd trwy fesur y llif ar y safle. Defnyddir modelau hydrolig i ddarogan ymddygiad ein systemau o dan wahanol amodau.
Perchennog Glannau’r Afon: Perchennog glan a gwely afon neu nant. Mae’r berchnogaeth yn ymestyn i ganol yr afon neu’r nant fel rheol, felly gall unrhyw ran o afon fod â dau berchennog, yn ar bob glan.
Pibell dŵr crai: Pibell ddŵr sy’n cludo dŵr na ellir ei yfed.
Pibell Waredu: Pibell a ddefnyddir i gludo elifiant yn ôl ac ymlaen i unrhyw weithfeydd gwaredu carthffosiaeth (Nid carthffos gyhoeddus).
Safonau Adeiladu Gorfodol (MBS): Safonau gorfodol a bennwyd gan y Gweinidogion sy’n diffinio’n gyfreithiol y gofynion ar gyfer cytundebau mabwysiadu carthffosydd (gweler Adran 104). Cyfeirir at yr MBS bellach fel - Safonau Drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer Carthffosydd Budr Disgyrchiant a Draeniau Ochr. Ar 1 Hydref 2012, daw’r Safonau Drafft yn Safonau Gweinidogion Cymru ar gyfer Carthffosydd Budr Disgyrchiant a Draeniau Ochr.
Seilwaith: Mae hyn yn cyfeirio at asedau sydd ym mherchnogaeth yr ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth statudol ac sy’n cael eu cynnal a’u cadw ganddynt.
Siambr Derfyn: Siambr archwilio sy’n dynodi diwedd draen ochrol gyhoeddus. Mae’r holl ddraeniau i fyny’r llif o’r siambr hon yn breifat. Mae’r siambr yn ein galluogi ni i fynd i mewn i gynnal-a-chadw draen ochrol gyhoeddus. Rhaid iddi fod o fewn cwrtil yr eiddo
Tâl cysylltu: Tâl y mae’r cwsmeriaid yn ei dalu i’r ymgymerwr am dreuliau rhesymol a godir am waith i gysylltu eu heiddo i’r brif bibell ddŵr neu’r garthffos.
Tâl Seilwaith: Tâl y mae gofyn i ni ei orfodi pan fo angen cysylltiadau newydd ac mae’n berthnasol i bob cysylltiad â’n gwasanaethau. Mae’n cael ei ddefnyddio i gynyddu cynhwysedd yr asedau sy’n bodoli eisoes.
Ymgymerwr Carthffosiaeth Statudol: Cwmni a benodwyd â dyletswyddau dros ddarparu a chynnal carthffosydd cyhoeddus a gwasanaethau carthffosiaeth.