Y Trefniadau Newydd o ran Ffioedd a Bondiau
Cysylltu carthffosydd: gwybodaeth am ‘Safonau Gweinidogion Cymru a’r trefniadau cysylltiedig o ran ffioedd a bondiau’
Yn sgil trosglwyddo carthffosydd preifat i’r cwmnïau dŵr a charthffosiaeth ar 1 Hydref 2011, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno trefniadau mabwysiadu gorfodol newydd ar gyfer carthffosydd a draeniau ochrol. Daw’r rhain, sef ‘Safonau Gweinidogion Cymru’ ar gyfer carthffosydd budr a draeniau ochrol i rym ar 1 Hydref 2012.
Y gyfraith a’r Safonau newydd yw’r ail gam yn y broses o eglurhau pwy sy’n berchen ar garthffosydd preifat a draeniau ochrol yn ein hardal, a phwy sy’n gyfrifol am eu rheoli. Mae’r trosglwyddiad y llynedd wedi bod o fudd mawr i gwsmeriaid unigol a chanddynt broblemau â charthffosydd preifat. Mae hi wedi bod o fantais i ddatblygwyr hefyd, am nad nhw sy’n gyfrifol am gynnal a thrwsio’r carthffosydd y maent yn eu hadeiladu mwyach.
O dan Adran 42 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, bydd y gyfraith newydd yn gofyn bod Dŵr Cymru’n sicrhau bod yr holl garthffosydd a draeniau ochrol sy’n cael eu hadeiladu a’u cysylltu â’r system garthffosiaeth leol yn cael eu mabwysiadu yn rhan o’r system gyhoeddus. Bydd hyn yn sicrhau taw Dŵr Cymru fydd yn gyfrifol am gynnal-a-chadw’r rhain yn y dyfodol, yn hytrach na’r datblygwyr neu’r bobl sy’n byw yn yr eiddo. Bydd hyn yn lleddfu’r baich a’r gost o drwsio carthffosydd i drigolion.
Bydd y Safonau newydd yn cynnig manteision pellach hefyd. Trwy sicrhau bod y carthffosydd yn cael eu hadeiladu i safon dderbyniol er mwyn eu mabwysiadu, y bwriad yw creu rhwydwaith o safon well er budd y gymuned ehangach a’r amgylchedd yn y tymor hir. Bydd Safonau Gweinidogion Cymru’n berthnasol i garthffosydd budr. Bydd y safonau manylach ar gyfer asedau carthffosiaeth eraill y mae angen eu mabwysiadu i’w cael ‘Carthffosydd i’w Mabwysiadu, y 7fed Rifyn’.
Mae Dŵr Cymru’n diwygio ei brosesau ar gyfer mabwysiadu carthffosydd mewn ymateb i’r newid hwn yn y gyfraith. Fel cwmni dielw heb unrhyw gyfranddeiliaid, rydyn ni wedi ceisio cyflwyno newidiadau sy’n deg i ddatblygwyr ac yn cynnig amddiffyniad teg i’n cwsmeriaid hefyd.
Daw’n ofyniad i bob cynnig i gysylltu carthffos sy’n cael ei gymeradwyo gan Ddŵr Cymru – ar gyfer carthion budr neu ddŵr wyneb – fod yn amodol ar gytundeb mabwysiadu cyn y gall unrhyw waith i adeiladu’r cyfleusterau draenio gychwyn.
Rydyn ni’n cynnal yr un strwythur o ffioedd technegol ar gyfer datblygwyr sydd wedi bod mewn grym ers dros 30 mlynedd. Fodd bynnag, bydd yna newid yn y gofyniad o ran y warant, neu’r bond, y mae angen ei thalu i warantu ‘cyfnod atebolrwydd am ddiffygion’ penodedig.
Am fod y trefniadau mabwysiadu gorfodol newydd hyn yn cynyddu’r risg i’r cwmni ac i’n cwsmeriaid, rydyn ni wedi adolygu’r warant gyfredol o 10 y cant o’r costau adeiladu. Bydd hyn yn cynyddu i 33 y cant, ag isafswm o £500. Fodd bynnag, bydd y broses newydd yn golygu bod modd mabwysiadu’r carthffosydd yn gynt o lawer, ac felly bydd y warant mewn grym am gyfnod byrrach o lawer. Gallai’r cyfnod ar gyfer cadw bondiau datblygwyr ostwng o gymaint â 10 mlynedd i gyn lleied â dwy flynedd. I ymgeiswyr sy’n gwella neu’n adeiladu un eiddo â draen ochrol disgyrchiant, bydd angen blaendal arian parod o £500 am gyfnod atebolrwydd am ddiffygion o gwta tri mis.
Yn ogystal, mae’r safonau mabwysiadu newydd yn cynnig cwmpas ar gyfer darbodaeth a allai alluogi datblygwyr i leihau eu costau.
Byddwn ni’n dal ati i adolygu’r trefniadau ariannol hyn, ac yn ymgysylltu’r datblygwyr a phobl eraill sydd â diddordeb er mwyn sicrhau nad yw’r safonau cyfreithiol newydd yma’n llesteirio gwaith adeiladu a thwf economaidd.
Os oes unrhyw ymholiadau gennych am y Safonau newydd, byddwn ni’n fwy na hapus o gynnig unrhyw gymorth y gallwn ni. Mae rhagor o wybodaeth ar dudalennau’r gwasanaethau i ddatblygwyr, a gallwch gysylltu â ni ar mbsfaq@dwrcymru.com.