Ein gwaith ar gyrff dŵr mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
Dyma gyflwyniad i’n gwaith ar gyrff dŵr mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).
Byddwn ni’n diweddaru’r cwestiynau cyffredin yma i rannu gwybodaeth am ein gwaith ar gyrff dŵr mewn ACA, a’n safbwynt ni o ran y rheoliadau a’r polisïau sy’n esblygu.
Dylid darllen y cwestiynau hyn ochr yn ochr â’r dogfennau isod ar y pwnc:
$name
-
Datganiad o’r sefyllfa o ran ffosffadau
Amlinelliad o safbwynt Dŵr Cymru ar y mater.
-
Datganiad gwella ansawdd dŵr ein hafonydd
Ein cynllun o ran sut y byddwn ni’n chwarae ein rhan wrth helpu i wella ansawdd dŵr afonol.
-
Deall ffynonellau ffosfforws yn ein hafonydd
Mae’r modelau ansawdd dŵr a’r crynodeb o’u hallbwn yn Adroddiadau Modelu’r Dalgylchoedd. Cyhoeddir yr adroddiadau.
-
Cyngor Cynllunio CNC
Cyngor i awdurdodau cynllunio ar gyfer ceisiadau cynllunio sy’n effeithio ar Ardaloedd Cadwraeth arbennig afonol sy’n sensitif i ffosfforws.
-
Diweddariad modelu a buddsoddiad Dŵr Cymru
Information & evidence pack from July 2022 summit.
-
Cyngor Natural England (Lloegr yn unig)
Cyngor i awdurdodau cynllunio ar gyfer ceisiadau cynllunio sy’n effeithio ar Ardaloedd Cadwraeth arbennig afonol sy’n sensitif i ffosfforws.
Frequently asked questions
Y Terfyn Uchaf y Gellir ei Gyflawni’n Dechnegol yw uchafswm y ffosfforws y gall cwmni dŵr ei dynnu mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff unigol.
Pennir hyn ar sail crynodiad o 0.25mg/l o Ffosfforws yn yr elifion sy’n cael eu rhyddhau o Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff. Mae costau cyflawni’r terfyn uchaf yma ag unrhyw lefel o sicrwydd yn eithriadol o uchel, felly byddai angen gwaith cyfalaf sylweddol er mwyn cyflawni hyn. Byddai angen cynllunio ar gyfer hyn yn y cylch buddsoddi nesaf.
Yn ddiweddar, dywedodd DEFRA y byddai angen rhoi’r Terfyn Uchaf y Gellir ei Gyflawni’n Dechnegol ar waith yn yr holl Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff yn Lloegr (dros ben trothwy penodol o ran poblogaeth) sy’n rhyddhau i Ardal Cadwraeth Arbennig nad ydynt yn cyflawni statws ffafriol. Mae hyn yn debygol o fod yn rhan o’r cynlluniau a bennir Adolygiad o Brisiau 24, gyda’r gwaith yn digwydd rhwng 2025 a 2030.
Cytunwyd gyda’r rheoleiddiwr na fydd angen i ni weithredu’r Terfyn Uchaf y Gellir ei Gyflawni’n Dechnegol yn ddiofyn ar weithfeydd sy’n rhyddhau i Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn y rhannau o Loegr a wasanaethwn.
Yng Nghymru a’r ardaloedd o Loegr a wasanaethwn, cytunwyd gyda’r Rheoleiddwyr Amgylcheddol y dylai’r mesurau a gymerir fod yn gymesur ag achos y methiant gan ddefnyddio’r egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n parhau â’r gwaith modelu ansawdd dŵr ar y cyd, ac yn buddsoddi mewn tynnu ffosfforws yn y Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff lle bo gofyn i ni fynd i’r afael â’n ‘cyfran deg’.
Yn nalgylch afon Gwy, rydyn ni’n gwybod na fyddai gweithredu Terfyn Uchaf y Gellir ei Gyflawni’n Dechnegol yn datrys y broblem ffosfforws am y byddai angen i sectorau eraill ddileu tipyn sylweddol o ffosfforws hefyd. Yn ogystal, gallwn dybio y bydd angen parhau i ystyried niwtraliaeth maetholion nes bod yr afon yn cyflawni statws ffafriol.
Os oes angen pennu’r Terfyn Uchaf y Gellir ei Gyflawni’n Dechnegol, byddai hynny’n mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at fynd i’r afael â’r ffaith fod gormod o ffosfforws yn yr afon. Fodd bynnag, ni fyddai’n ddigon i greu ‘cyflwr ffafriol’ / statws da o fewn yr Ardal Cadwraeth Arbennig. Byddai angen rhoi mesurau ar waith i atal yr ardal rhag gwaethygu hefyd er mwyn gwneud cynnydd tuag at statws da. Nid ydym yn disgwyl i unrhyw gredydau gael eu creu yn sgil gweithredu’r Terfyn Uchaf y Gellir ei Gyflawni’n Dechnegol.
Bydd y rheoleiddwyr amgylcheddol yn mynnu bod terfyn o 5mg/l yn cael ei weithredu ar Gyfanswm y Ffosfforws a ganiateir mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff uwchben trothwy penodol o ran y boblogaeth, sy’n rhyddhau i Ardal Cadwraeth Arbennig. Caiff hyn ei weithredu yng Nghyfnod Rheoli Asedau 8 (2025-2030). Bydd y terfynau newydd a ganiateir yn cynnig mwy o sicrwydd i atal gwaethygiad, a’r gofyniad statudol i samplo ac adrodd ar lefel y ffosfforws sydd yn elifion terfynol Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff. Bydd y terfyn wrth gefn yn rhoi mwy o sicrwydd wrth fodelu ansawdd dŵr lle bo’r terfyn newydd yn cymryd lle’r amcangyfrifon o gyfanswm gwerthoedd ffosfforws a oedd yn arfer bod mewn fersiynau blaenorol.
Rydyn ni’n ymwybodol o nifer o ddatblygwyr sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio opsiynau trin preifat. O dan Gyngor Cynllunio diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru (a gyhoeddwyd ar 26 Gorffennaf 2022), er y gallwn gynnig cyngor i ddatblygwyr ac Awdurdodau Cynllunio Lleol ar gynigion sy’n cynnwys defnyddio rhagdriniaeth gemegol breifat sy’n rhyddhau i’r garthffos gyhoeddus, mater i’r Awdurdod Cynllunio Lleol benderfynu arno fel yr awdurdod cymwys yw hwn yn y pendraw.
Fodd bynnag, mae gennym bryderon o hyd am y math yma o gynnig, a byddem yn gofyn am eglurhad pellach o ran:
- Y potensial ar gyfer effaith andwyol a difrod niweidiol i’r garthffos gyhoeddus a’r Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff a fyddai’n derbyn yr elifion.
- Gwarant ar reoli a chynnal-a-chadw gweithfeydd trin preifat o’r math yma yn y tymor hir.
- Effaith amgylcheddol dosio cemegol trwy ryddhau ysbeidiol.
Er ein bod am chwarae ein rhan wrth hwyluso datblygiad, byddai angen sicrwydd gan y datblygwr ar y cyd â’r ACLl a CNC y câi’r pryderon hyn eu datrys.
Cyfoeth Naturiol Cymru / Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n pennu’r gofyniad am i Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff gynnwys ffosfforws o fewn eu trwyddedau amgylcheddol trwy’r Rhaglen Amgylcheddol Genedlaethol (NEP), a chaiff cynlluniau eu cynnwys yn ein proses AMP yn sgil hynny.
Ar hyn o bryd, nid oes yna fecanwaith i gyflawni gwaith tynnu ffosfforws yn ein Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff y tu hwnt i broses yr AMP, ond yn sgil Uwchgynhadledd Ffosfforws y Prif Weinidog yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, rydyn ni’n cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru; Cyfoeth Naturiol Cymru; Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai a rhanddeiliaid eraill er mwyn pennu a fyddai’n bosibl (o safbwynt rheoliadol) caniatáu i ddatblygwyr ariannu’r gwaith o dynnu ffosfforws
Byrddau Rheoli Maetholion
Bydd Byrddau Rheoli Maetholion (NMB) yn chwarae rôl gynyddol bwysig dros y blynyddoedd nesaf, ac maent eisoes yn dangos llwyddiant ar afon Gwy yn Sir Henffordd, lle mae’r sectorau dŵr a datblygu, gan gynnwys yr Awdurdodau Cynllunio Lleol, yn cydweithio i adeiladu wyth ardal gwlyptir i leihau llwyth y maetholion yn afon Llugwy (un o isafonydd afon Gwy.)
Nod y dull o weithredu a ddefnyddir yn Henffordd yw ‘datgloi’ datblygiad trwy broses gynllunio’r Awdurdod Lleol – gyda Chynllun Credydau Ffosffadau (PCS). Mae hyn yn caniatáu i ddatblygwyr fuddsoddi mewn cynlluniau lleihau ffosffadau, fel gwlyptiroedd, er mwyn caniatáu i gartrefi newydd gael eu hadeiladu. Gellid defnyddio’r dull aml-sectoraidd sy’n gweithredu yn Sir Henffordd yng Nghymru hefyd er mwyn lleihau maetholion o’r sector bwyd.
Mae dull gweithredu cydweithredol y Byrddau Rheoli Maetholion yn rhywbeth i’w groesawu ac mae’n cynnig sylfaen cadarn i adeiladu arno. Ond gallai’r cydweithredu yma fynd gam ymhellach, a gallai fod yna rôl i’r holl randdeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys y cwsmeriaid, yn hynny o beth. Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i chwarae ein rhan wrth ryngweithio â phroses y Byrddau Rheoli Maetholion.
Er ein bod ni’n rhagweithiol yn ein cefnogaeth i atebion sy’n seiliedig ar fyd natur er mwyn mynd i’r afael â phwysau o ran ansawdd dŵr, ni allwn gydweithio’n uniongyrchol â datblygwyr ar wlyptiroedd i leihau maetholion ar hyn o bryd. Mae hyn oherwydd y gofyniad llywodraethu annibynnol sy’n gosod y sylfaen ar gyfer cynlluniau o’r fath, ac er mwyn sicrhau trosolwg lefel dalgylch o’r holl atebion a gynigir. Rydyn ni’n gweithio gyda’r Byrddau Rheoli Maetholion a’r Awdurdodau Cynllunio Lleol i ymchwilio i ganfod ymhle y gallai gwlyptiroedd fod yn addas, a hynny’n seiliedig ar anghenion y dalgylch.
Rydyn ni wrthi’n gweithio gyda Byrddau Rheoli Maetholion ac Awdurdodau Cynllunio Lleol i ymchwilio i Safleoedd addas. Mater i’r Awdurdod Cynllunio Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru (yng Nghymru) a Natural England (yn Lloegr) yw pennu pa lefel o niwtraliaeth o ran maetholion sydd yna ym mhob dalgylch, a sut y dylid cyfrifo a dangos hyn.
I gael rhagor o fanylion am ddull Natural England of gofnodi a chydnabod Niwtraliaeth Maetholion, gweler eu hyb ‘Designing for Nutrient Neutrality’, sydd ar gael yma.
Mae’r rhan fwyaf o’r Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff lle rhagwelir y bydd yna gynllun lleihau ffosfforws i fynd i’r afael â’n cyfran ni o’r gwaith i leihau maetholion, yn lleihau’r ffosfforws i lefel isel. Yn yr achosion hyn, mae gwlyptiroedd yn annhebygol o gyflawni triniaeth bellach. Rydyn ni’n cynnwys hyn yn ein trafodaethau ag Awdurdodau Cynllunio Lleol a Byrddau Rheoli Maetholion.
Yn anffodus, nid ydym mewn sefyllfa i fabwysiadu neu reoli gwlyptiroedd sy’n cael eu cyflawni a’u hariannu’n breifat ar hyn o bryd.
Dylid nodi y bydd angen cydsyniad yr Awdurdod Cynllunio Lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru neu Natural England ac Asiantaeth yr Amgylchedd cyn creu gwlyptir.
Ni fydd y cynlluniau lleihau ffosfforws yn ein GTDG yn cynhyrchu credydau, a phwrpas y cynlluniau hyn yw mynd i’r afael â’n cyfran ni o’r gwaith lleihau ffosfforws sydd ei hangen ar afonydd mewn ACA.