Archebion am garthffosydd


Weithiau, nid oes gan eich cartref neu eich safle ffordd o ddraenio i garthffos gyhoeddus oherwydd bod tir sy'n eiddo i drydydd parti rhwng y safle a'r garthffos. Os na fydd y trydydd parti yn rhoi mynediad i chi i'r tir, yna gallwch ofyn yn ffurfiol (archebu) am garthffos gyhoeddus a/neu ddraen ochrol oddi wrthym ni.

Bydd ein peirianwyr arbenigol yn gallu eich arwain drwy'r broses gyfan, o gynllunio'r garthffos i'w hadeiladu hi.

A oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais? Rhowch yr holl fanylion yma a bydd aelod o'n tîm mewn cysylltiad â chi.

Os nad ydych yn siŵr sut i lenwi'r ffurflen neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, darllenwch ein nodiadau canllaw.

Faint fydd y gost?

Mae dwy gost yn gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn:

Ffi ymgeisio gychwynnol

Ffi o'r bron na ellir ei had-dalu o £2,500+TAW yw hon, a rhaid ei thalu adeg cyflwyno'r cais gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd dilys. Pan fyddwn ni wedi cwblhau'r gwaith, byddwn ni'n didynnu'r ffi ymgeisio o'r swm cyfnewid, felly dim ond y gwahaniaeth y bydd angen i chi ei thalu.

Swm cyfnewid NEU ddiffyg perthnasol

Lle bo cynllun yn cael ei gyflawni gan Ddŵr Cymru, caiff yr incwm y bydd Dŵr Cymru’n ei wneud o'r datblygiad yn y dyfodol ei osod yn erbyn cost gwaith Dŵr Cymru wrth gyflawni'r cynllun.

Mae dau opsiwn i dalu am hyn. Gellir dewis swm cyfnewid - lle mae’r refeniw  y mae’r cynllun yn ei gynhyrchu ar gyfer Dŵr Cymru’n cael ei amcangyfrif a'r datblygwr yn talu unrhyw ddiffyg ar ffurf cyfandaliad, neu'r diffyg perthnasol - lle bo'r datblygwr yn ymgymryd i dalu'r gwahaniaeth go iawn yn flynyddol, a chaiff hyn ei ategu gan ddarpariaeth bond.

Er enghraifft, os yw'r cynllun yn costio £10,000 i Ddŵr Cymru ei gyflawni ac mae gwarantu refeniw o £8,000 i Ddŵr Cymru yn y dyfodol, yna bydd angen i'r datblygwr dalu'r gwahaniaeth o £2,000 difference.  Dim ond lle nad yw'r eiddo wedi ei heithrio rhag TAW y codir TAW.

Os oes angen caffael carthffos ar gyfer un eiddo, yna ni fyddai angen gwneud iawn am yr incwm, a byddai modd codi'r tâl llawn am y cynllun.

Mewn achosion prin, rydyn ni'n cynnig caffael draeniau ochrol (yn debyg i gaffael carthffos, ond am un eiddo)

Ffi ymgeisio cychwynnol

Ffi o £2,500+TAW yw hon, a rhaid ei thalu adeg cyflwyno'r cais gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd dilys. Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau, byddwn ni'n didynnu'r ffi ymgeisio o'ch dyfynbris terfynol, felly dim ond y gwahaniaeth y bydd angen i chi ei thalu.

Cost dylunio ac adeiladu

Cyfrifir hyn fesul achos a gellir ei adhawlio'n llwyr i'r datblygwr.

Am fanylion ein prisiau, ewch i'n rhestr brisiau yma.

Peidiwch ag anghofio

  • Hyd yn oed os ydych yn archebu carthffos gyhoeddus oddi wrthym ni, bydd angen i chi wneud cais am gysylltiad carthffos newydd.

Archebion am garthffosydd nodiadau canllaw

PDF, 132.4kB

Byddem yn cynghori pawb i ddarllen ein nodiadau canllaw manwl yma cyn cyflwyno cais.