Dŵr


O gysylltiadau dŵr i eiddo unigol i brif ddargyfeiriadau dŵr mawr, gall ein tîm profiadol sy'n gofalu am ymholiadau dŵr eich helpu chi.

  • Cysylltiadau dŵr newydd
    • Os oes arnoch angen cysylltiad newydd i'n rhwydwaith dŵr, neu ailosod cysylltiad sydd eisoes yn bodoli, yna gallwch wneud cais yma. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn adeiladu eiddo newydd, yn estyn eiddo sydd eisoes yn bodoli, neu'n gweddnewid eiddo.
  • Prif bibell ddŵr newydd
    • Os ydych yn adeiladu eiddo lluosog ar safle y bydd ffordd newydd arno, mae'n debyg y bydd angen prif bibell ddŵr newydd arnoch.
  • Dargyfeirio, newid neu adael prif bibell ddŵr
    • Os ydych yn bwriadu dargyfeirio, newid neu adael prif bibell ddŵr neu gyfarpar ar dir y mae gennych fuddiant ynddo neu eich bod yn berchen arno, ni yw’r tîm i chi.