Cysylltiadau dŵr newydd – diamedr mawr


Os ydych chi'n adeiladu cartref neu eiddo masnachol newydd (fel siop, swyddfa neu adeilad diwydiannol), oni bai eich bod chi'n bwriadu cynaeafu dŵr glaw, mae'n debygol y bydd arnoch angen cysylltiad newydd â'n prif bibell ddŵr.

Beth fydd y gwasanaeth yn ei ddarparu?

Mae'r gwasanaeth yma ar gyfer cysylltiadau dŵr newydd â diamedr mawr.

Yn achos adeiladu masnachol, os oes angen llawer o ddŵr arnoch, yn enwedig dŵr i'w ddefnyddio ar gyfer prosesau diwydiannol, mae'n bosibl y bydd arnoch angen cysylltiad mawr.

Os oes angen cyflenwad dŵr pwrpasol at ddibenion diffodd tân arnoch, efallai y bydd angen cysylltiad dros 63mm.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych am y broses, dylai ein nodiadau canllaw manwl ar waelod y dudalen hon fod o gymorth.

Faint o amser bydd hyn yn ei gymryd?

Mae yna sawl cam yn y broses newydd ar gyfer cysylltiadau dŵr newydd:

Sut gallaf i wneud cais?

I wneud cais am gysylltiad mwy, llenwch y ffurflen gais hon a’i dychwelyd i developer.services@dwrcymru.com.

Beth fydd y gost?

Mae cost cysylltiad dŵr newydd yn ymrannu'n bedair cost gwahanol:

1. Ffi ymgeisio gychwynnol

Ffi o'r bron na ellir ei had-dalu yw hon. Rhaid ei thalu adeg cyflwyno'r cais gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd dilys. Pan ddaw'r amser i dalu'r tâl cysylltu, byddwn ni'n tynnu'r ffi ymgeisio o'r swm felly dim ond y gwahaniaeth y bydd angen ei dalu:

  • Mae newid i ‘Gysylltiad mwy o dros 63mm (pan fo angen cyflenwad dŵr pwrpasol at ddibenion ymladd tân) yn ffi ymlaen llaw na ellir ei ad-dalu o £2,500+VAT i’w dalu ar adeg gwneud y cais. Caiff hwn ei ddidynnu o gost cyflawni’r cynllun, felly byddwch ond yn talu’r gwahaniaeth.

2. Tâl cysylltu

  • Yn achos cysylltiadau mwy, byddwn ni'n llunio dyfynbris pwrpasol. Dim ond lle nad yw'r eiddo wedi ei heithrio rhag TAW y codir TAW.

3. Tâl seilwaith dŵr (nid yw hyn yn berthnasol i bibellau tân)

Tâl untro yw hwn:

  • £512 yr eiddo am gysylltiad safonol
  • £512 x y lluosrif o dan sylw am gysylltiadau mwy (mae manylion ein lluosrifau ar dudalennau 22-23 o'r rhestr taliadau)

4. Tâl seilwaith gwastraff (nid yw hyn yn berthnasol i bibellau tân)

Tâl untro yw hwn sy'n cael ei bennu gan ein rheoleiddiwr, Ofwat. Mae'n berthnasol i eiddo sy'n cysylltu â'n system garthffosiaeth hefyd, ac sy'n dewis cael cysylltiad dŵr safonol newydd:

  • £512 yr eiddo am gysylltiad safonol
  • £512 x y lluosrif o dan sylw am gysylltiadau mwy (mae manylion ein lluosrifau ar dudalennau 22-23 o'r rhestr taliadau)

Am fanylion ein prisiau, darllenwch ein rhestr o daliadau yma.

Nodiadau canllaw ar gysylltiadau dŵr newydd

PDF, 340.5kB

Byddem yn cynghori pawb i ddarllen ein nodiadau canllaw manwl yma cyn cyflwyno cais