Systemau Chwistrellu Domestig


Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi deddfwriaeth newydd ar waith i'w gwneud yn orfodol gosod systemau chwistrellu i ddiffodd tân mewn unrhyw eiddo domestig newydd.

Ers Ebrill 2014, mae'r rheoliadau wedi bod mewn grym mewn eiddo risg uchel fel cartrefi gofal, neuaddau preswyl newydd a rhai wedi eu trosi i fyfyrwyr, tai llety a rhai hostelau, ac ers Ionawr 2016, i bob tŷ a fflat newydd a rhai sy'n cael eu trosi.

Mae Dŵr Cymru yn llwyr gefnogi cyflwyniad Systemau Chwistrellu Domestig yng Nghymru er mwyn lleihau nifer y bobl sy'n colli eu bywydau mewn tanau, ac rydym yn gweithio gyda Datblygwyr er mwyn sicrhau ein bod ni'n rhoi gofynion y rheoliadau ar waith yn y dull mwyaf cost-effeithiol ac effeithlon posibl.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ac atebion i gwestiynau cyffredin trwy fynd i'n Canllawiau i Ddatblygwyr.

Systemau Chwistrellu Domestig

PDF, 396.2kB

Ein canllaw ni i’r rheoliad