Mabwysiadu carthffosydd


Mae’n rhaid i'r rhan fwyaf o garthffosydd newydd gael eu mabwysiadu gennym ni cyn iddynt gael eu hadeiladu

Os ydych chi'n cysylltu â'r rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus naill ai drwy ddraen ochrol (h.y. draen sy'n ymestyn y tu hwnt i ffin yr eiddo cysylltiol) neu garthffos newydd (h.y. un sy’n gwasanaethu mwy nag un eiddo), mae'n debyg y bydd angen i chi ymrwymo i gytundeb mabwysiadu gyda ni (Deddf y Diwydiant Dŵr 1991).

O ran cynllunio carthffosydd a draeniau ochrol yr ydych yn dymuno inni eu mabwysiadu, mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â safonau Canllawiau Dylunio ‘Carthffosydd i’w Mabwysiadu 7fed Rhifyn’ yn ogystal â Safonau Gweinidogion Cymru ar gyfer Carthffosydd Disgyrchiant a Draeniau Ochrol.

Hefyd, mae'n rhaid i chi brofi eich bod chi (neu eich contractwr) yn gallu cael mynediad at y rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus yn ddiogel, drwy ddangos bod gennych y systemau a'r prosesau iechyd a diogelwch priodol ar waith.

Yr hyn y mae angen ei wybod arnoch

  • Mae'n debyg y bydd angen i chi ymrwymo i gytundeb mabwysiadu gyda ni cyn adeiladu draen ochrol neu garthffos newydd.
  • Mae’n rhaid i bob carthffos a draen ochrol gydymffurfio â safonau Canllawiau Dylunio ‘Carthffosydd i’w Mabwysiadu 7fed Rhifyn’ a Safonau Gweinidogion Cymru ar gyfer Carthffosydd Disgyrchiant a Draeniau Ochrol.
  • Os ydych chi neu eich contractwr yn dymuno cael mynediad i’n rhwydwaith o garthffosydd cyhoeddus, mae’n rhaid i chi brofi bod y systemau a'r prosesau iechyd a diogelwch priodol ar waith gennych.
  • Ni fyddwn yn caniatáu i gontractwr gael mynediad i’r rhwydwaith nes y byddwn wedi cadarnhau ei fod yn sefydliad sy’n aelod o broses achredu Safety Schemes in Procurement (SSIP).
  • Caiff Safety Schemes in Procurement ei gymeradwyo gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, sydd wedi dwyn ynghyd nifer o gyrff achredu Iechyd a Diogelwch sydd eisoes yn bodoli o dan ymbarél yr SSIP.
  • Pan fyddwn yn derbyn cais am gysylltiad carthffos, byddwn yn bodloni ein hunain bod gan y contractwr a benodwyd yr achrediad SSIP angenrheidiol. Yna, byddwn yn anfon copi o'r llythyr cymeradwyo atoch chi a'ch contractwr penodedig, a fydd yn amlinellu'r camau nesaf.

A ydych yn dymuno gwybod rhagor?

Os ydych chi’n dymuno rhagor o wybodaeth am sefydliad SSIP, ewch i’w wefan.