Eich canllaw i archwilio ffosydd


Pan fyddwch chi'n ymgeisio am gysylltiad dŵr newydd, byddwn ni'n adolygu eich cais ac yn rhoi gwybod i chi os oes angen rhagor o wybodaeth arnom. Wedyn byddwn ni'n darparu dyfynbris a chynllun cysylltu ar eich cyfer cyn pen 28 diwrnod ar ôl i'r cais llawn ddod i law.

Pan fyddwch wedi derbyn y dyfynbris a'r cynllun cysylltu

Mae hi'n bwysig nodi bod y dyfrynbris yn ddilys am chwe mis yn unig, sy'n golygu bod gennych chwe mis i'w dalu. Pan fyddwch wedi talu, eich cyfrifoldeb chi yw gosod eich ffos a chysylltu â ni pan fyddwch chi'n barod i ni ei harchwilio.

Yn rhan o gysylltiad dŵr newydd, bydd disgwyl i chi dorri'r ffos yn y tir o fewn ffiniau eich eiddo, yn ogystal ag ar unrhyw dir trydydd parti sydd rhwng ffin eich eiddo a'r pwynt cysylltu. Pan fyddwn ni'n rhannu'r dyfynbris â chi, byddwn ni'n rhannu cynllun cysylltu hefyd, a bydd hyn yn dangos yn glir taw chi sy'n gyfrifol am yr holl waith o bwynt A i bwynt B ar y cynllun.

Sut y drefnu archwiliad o’ch ffos

Pan fyddwch chi wedi cyflawni'r gwaith yma, bydd angen cyflawni archwiliad o'r ffos am bob cysylltiad dŵr newydd. Dyma ein ffordd ni o sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei osod yn cydymffurfio o ddechrau'r datblygiad yn deg.

Pan fyddwch chi'n barod i ni archwilio'ch ffos, mae hi'n bwysig eich bod yn gadael y ffos a'r bibellwaith yn agored i ni eu harchwilio. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf isod, yna rydych chi'n barod i drefnu archwiliad o'ch ffos.

Rhestr gyfeirio ar gyfer archwiliad o'r ffos:

  1. Gosodwyd y pibellwaith i ddyfnder o 750mm o leiaf o A i B fel y mae'r cynllun cysylltu a anfonwyd ataf gyda'r dyfynbris yn ei ddangos.
  2. Mae'r ffos yn agored, neu…
  3. Nid yw'r ffos yn agored, ond rydw i wedi creu tyllau archwilio ar hyd y ffos ac wedi cloddio twll yn y ddau ben
  4. Rydw i wedi sicrhau na fydd dim yn eich atal rhag cyrraedd y safle, fel sgipiau neu sgaffaldiau
  5. Os oes unrhyw ran o'r bibellwaith preifat wedi cael ei osod ar dir trydydd parti, rydw i wedi cael yr hawddfreintiau priodol ac wedi rhannu copïau ohonynt â chi
  6. Os oes unrhyw ran o'r pibellwaith preifat wedi cael ei osod ar dir sy'n eiddo i'r cyngor neu briffordd, rydw i wedi cael trwydded gwaith stryd adran 50 ac wedi rhannu copïau ohoni â chi
  7. Rydw i wedi gosod unrhyw ffitiadau perthnasol (fel falfiau draenio a stoptap)
  8. Os oes system gwresogi olew yn/yn cael ei gosod yn yr eiddo, rydw i wedi gosod barbibell
  9. Os ydw i’n gosod taenellwr tân domestig, rydw chi wedi gosod y darn T cyn y stoptap gyda'r ffitiadau perthnasol (fel falf un ffordd)
  10. Os yw'r cysylltiad dŵr newydd ar gyfer gosodiad amlddeiliadaeth, yna rydw i wedi gosod cangen maniffold fewnol.
  11. Os yw'r cysylltiad dŵr newydd am bibell 63mm neu fwy, yna rydw i wedi clorineiddio’r bibell ac wedi rhannu canlyniadau'r labordy clorineiddio â chi.

Beth yw'r cam nesaf?

Os gallwch roi tic ym mhob un o'r blychau uchod, cysylltwch â ni. Wedyn byddwn ni'n gofyn i archwilydd alw i'ch eiddo i archwilio'r ffos a'r pibellwaith. Ein nod yw cyflawni archwiliadau cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Pan fyddwch wedi pasio eich archwiliad, byddwn ni'n cyfarwyddo'n contractwyr i gwblhau'ch cysylltiad newydd. Ein nod fydd cwblhau'r cysylltiad cyn pen 21 diwrnod. Mewn ambell i achos, bydd angen cau'r ffordd i wneud y cysylltiad. Os felly, gellir adio 12 wythnos pellach at ein hamserlenni:

Dyma ambell i ddogfen a chanllaw a all fod o ddefnydd i chi:

Gobeithio bod yr uchod yn eich cynorthwyo i baratoi ar gyfer archwiliad o'ch ffos. Oes rhagor o gwestiynau gennych? Rhowch alwad i ni ar 0800 917 2652 neu anfonwch neges e-bost atom yn new.connections@dwrcymru.com.