Cysylltiadau carthffos newydd
Os ydych chi’n adeiladu cartref neu ddatblygiad newydd, mae’n debyg y byddwch am gysylltu ag un o’n pibellau carthffosiaeth fel y gallwn gludo eich dŵr gwastraff i ffwrdd i’w drin, ei lanhau a’i ddychwelyd i’r amgylchedd.
Os ydych chi wedi defnyddio ein gwasanaethau ni o’r blaen neu os oes gennych chi gytundeb mabwysiadu gyda ni eisoes, yna does dim angen i chi boeni am ateb y cwestiynau isod, ewch yn syth i’n ffurflen mynegi diddordeb yma.
1. Ydych chi’n bwriadu cysylltu llifoedd dŵr budr neu ddŵr wyneb â’r garthffos gyhoeddus? Budr
Os nad ydych chi wedi defnyddio ein gwasanaethau datblygwyr o’r blaen, yna drwy lenwi’r cwestiynau isod byddwn ni’n gallu eich cyfeirio at y man cywir ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnoch chi.
Ar gyfer cytundebau mabwysiadu presennol, byddwn ni’n anfon y cais am gysylltiad newydd â’r garthffos atoch chi’n awtomatig cyn gynted ag y bydd y cytundeb cyfreithiol wedi’i gwblhau.
2. Ydych chi’n bwriadu gwneud cysylltiad parhaol neu gysylltiad ag uned les dros dro? Parhaol
3. Oes gennych chi ganiatâd cynllunio? Amherthnasol (For example Permitted Development)
4. Os yw’ch hysbysiad o benderfyniad cynllunio yn cynnwys amod draenio cyn cychwyn, a yw hyn wedi’i gyflawni? Ydy neu Amherthnasol
Ceir enghraifft o amod cyn cychwyn isod.
Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn cychwyn nes bod cynllun draenio ar gyfer y safle wedi’i gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig ganddo. Bydd y cynllun yn darparu ar gyfer gwaredu dŵr budr, dŵr wyneb a dŵr tir, ac yn cynnwys asesiad o’r potensial i waredu dŵr wyneb a dŵr tir drwy ddulliau cynaliadwy. Ar ôl hynny, caiff y cynllun ei weithredu yn unol â’r manylion cymeradwy cyn i’r datblygiad gael ei feddiannu ac ni chaniateir i unrhyw ddŵr budr, dŵr wyneb na draeniad tir gael ei gysylltu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â’r system garthffosiaeth gyhoeddus.
5. Sylwer Isrannu llain o dir i greu annedd newydd
Cysylltu yn uniongyrchol â charthffos gyhoeddus neu ddraen preifat sy’n cysylltu’n anuniongyrchol â’r system garthffosiaeth gyhoeddus. Sicrhewch fod tystiolaeth yn cael ei chyflwyno ynghyd â’ch cais dilynol ar gyfer Cysylltiad Newydd â’r Garthffos.
- Carthffos gyhoeddus- Pibell sy’n gwasanaethu o leiaf ddau eiddo. Gall y bibell hon fod o fewn eich cwrtil neu ar y briffordd gyhoeddus.
- Draen preifat - Draen preifat – Pibell ddŵr sy’n cael ei defnyddio i gludo llifoedd o adeiladau ac iardiau o fewn cwrtil sengl. Bydd y bibell ddŵr hon ond i’w gael yn eich cwrtil chi
Enghraifft o gysylltiad y tu allan i’r ffin - bydd hyn yn gofyn am fabwysiadu
Enghraifft o gysylltiad lle mae’r garthffos gyhoeddus o fewn ffin y safle
Lle ydych chi’n bwriadu cysylltu â’r garthffos gyhoeddus?
6. Oes angen i chi wneud cais am gytundeb mabwysiadu?
Oes angen i chi wneud cais am gytundeb mabwysiadu?
Pan fydd llain o dir yn cael ei hisrannu i greu annedd ychwanegol nad yw’n ategol i’r brif annedd, bydd angen i chi wneud cais am gytundeb mabwysiadu yn gyntaf.
Gwnewch gais ymaByddwn ni'n archwilio eich cais er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'n canllawiau. Bydd hyn yn cynnwys ymweliad safle gan un o'n rheolwyr safle.
Byddwn ni naill ai'n cymeradwyo eich cais neu'n ei wrthod cyn pen 21 diwrnod.
Un cysylltiad newydd â charthffos ar gyfer:
- 1-25 eiddo (gall un cysylltiad wasanaethu sawl eiddo) - £275.31.
- 26+ eiddo (gall un cysylltiad wasanaethu sawl eiddo) - £374.01.
Fel cwmni nid-er-elw, mae ein prisiau'n seiliedig ar gost cyflawni'r gwasanaeth yn unig. Am fanylion ein prisiau, ewch i'n rhestr brisiau yma.
Bydd angen i ni gymeradwyo unrhyw gysylltiadau newydd â charthffos gyhoeddus. Hyd yn oed os ydych yn ailddefnyddio cysylltiad carthffos sydd eisoes yn bodoli, bydd angen i ni ei gymeradwyo. Os nad ydym wedi rhoi ein caniatâd, yna rydych chi'n torri'r gyfraith.
Canllawiau ar gysylltiad newydd â charthffos
PDF, 198.9kB