Caffael prif bibell ddŵr


Os ydych chi'n adeiladu sawl eiddo ar safle lle bydd ffordd newydd, yna mae'n debygol y bydd angen prif bibell ddŵr newydd arnoch.

Cysylltiad dŵr newydd

Caffael prif bibellau dŵr yw’r drefn sy’n cael ei defnyddio os yw datblygwr yn adeiladu dau eiddo neu ragor fel rheol. Os ydych chi’n chwilio am gysylltiad dŵr ar gyfer un eiddo yn unig, ewch i’n tudalen.

Gallwch ganfod rhagor yma

Mae ar y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd sydd â ffordd newydd angen prif bibell ddŵr newydd, a fydd yn cysylltu â'n rhwydwaith cyfredol. Bydd y brif bibell newydd yn gwasanaethu'r safle a chaiff pob eiddo ei gysylltu â'r brif bibell newydd trwy eu pibell gwasanaeth unigol ei hun.

Mae yna ddwy ffordd o fynd ati i ymgeisio am brif bibell ddŵr newydd:

  • Hunan-osod lle bydd contractwr hunan-osod achrededig yn adeiladu’r brif bibell ar eich rhan yn hytrach na ni
  • Cais am brif bibell ddŵr lle byddwn ni’n adeiladu’r brif bibell i chi

Mae’r dudalen hon yn amlinellu’r opsiwn cais am brif bibell ddŵr. Cliciwch yma am yr opsiwn hunan-osod.

Beth fydd y gwasanaeth yn ei ddarparu?

Mae caffael yn golygu taw Dŵr Cymru sy'n dylunio'r brif bibell ac yn ei gosod.

Bydd ein peirianwyr arbenigol yn gallu’ch tywys chi drwy'r broses gyfan, o ddylunio'r brif bibell newydd i'w gosod.

Os ydych chi'n caffael prif bibellau dŵr newydd gennym, mae’n bwysig nodi y bydd angen i chi gyflwyno cais am gysylltiad dŵr newydd ar gyfer pob eiddo o hyd.

Faint o amser bydd hyn yn ei gymryd?

Am fod pob cais yn wahanol, nid oes yna amserlen benodol. Pan fyddwch chi’n cyflwyno cais am y gwasanaeth hwn, bydd ein tîm yn cynnig brasamcan o'r amserlen ar eich cyfer.

Beth fydd y gost?

Mae dwy gost yn gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn:

Ffi ymgeisio gychwynnol

Ffi o'r bron o £2,500+TAW na ellir ei had-dalu, i'w thalu adeg cyflwyno'r cais gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd dilys yw hon. Pan fyddwn wedi cwblhau'r gwaith, byddwn ni'n tynnu'r ffi ymgeisio o'r swm cyfnewid, felly dim ond y gwahaniaeth y bydd angen ei dalu. Os dewiswch dalu trwy ddiffyg perthnasol, caiff y ffi ei had-dalu'n llawn.

Swm cyfnewid NEU ddiffyg perthnasol

Lle bo cynllun yn cael ei gyflawni gan Ddŵr Cymru, caiff yr incwm y bydd y datblygiad yn ei gynhyrchu i Ddŵr Cymru yn y dyfodol ei wrthbwyso yn erbyn cost cyflawni'r cynllun.

Mae dwy ffordd o dalu am hyn. Gellir gwneud hyn trwy swm cyfnewid – lle amcangyfrifir y refeniw y bydd y cynllun yn ei gynhyrchu i Ddŵr Cymru yn y dyfodol ac mae'r datblygwr yn talu unrhyw ddiffyg ar ffurf cyfandaliad; neu'r diffyg perthnasol – lle mae'r datblygwr yn ymgymryd i dalu'r gwir wahaniaeth yn flynyddol, wedi ei ategu gan ddarpariaeth bond.

Er enghraifft, os yw'r cynllun yn costio £10,000 i Ddŵr Cymru ei gyflawni, ond mae'n gwarantu refeniw o £8,000 i Ddŵr Cymru yn y dyfodol, yna bydd angen i'r datblygwr dalu'r gwahaniaeth o £2,000. Dim ond lle nad yw'r eiddo wedi ei heithrio rhag TAW y codir TAW ar y swm.

Mae'r ddau yn amrywio yn seiliedig ar anghenion unigryw pob datblygiad.

Am fanylion ein prisiau, darllenwch ein rhestr o daliadau yma.

Canllawiau wrth gaffael carthffos

PDF, 1.1MB

Byddem yn cynghori pawb i ddarllen ein nodiadau canllaw manwl cyn mynd ati i gyflwyno cais