Rwyf yn adeiladu sawl eiddo newydd
Os ydych yn adeiladu eiddo lluosog ar safle y bydd ffordd newydd arno, mae'n debyg y bydd angen prif bibell ddŵr newydd arnoch.
Os ydych yn adeiladu eiddo lluosog ar safle y bydd ffordd newydd arno, mae'n debyg y bydd angen prif bibell ddŵr newydd arnoch.
Mae'r rhan fwyaf o safleoedd datblygu newydd sydd â ffordd newydd arnynt angen prif bibell ddŵr newydd, y byddwn wedyn yn ei chysylltu â'n rhwydwaith presennol. Bydd y brif bibell newydd yn gwasanaethu'r safle ac yna bydd pob eiddo yn cael ei gysylltu â'r brif bibell newydd drwy eu pibellau gwasanaeth unigol eu hunain.
Bydd angen i chi:
Mae'n debyg y bydd angen carthffosiaeth newydd arnoch hefyd i gael gwared â gwastraff o'r safle.
Bydd angen i chi:
- Wneud cais am gysylltiadau carthffosiaeth newydd ar gyfer pob eiddo yma os nad oes cytundeb mabwysiadu ar waith. Os oes cytundeb mabwysiadu ar waith, yna nid oes angen gwneud ceisiadau i gysylltu â charthffosydd lluosog.
- Byddwn yn ymrwymo i gytundeb cyfreithiol â chi i fabwysiadu'r carthffosydd hyn ar yr amod eu bod nhw wedi eu cynllunio yn ôl safonau presennol y diwydiant. I gael gwybod rhagor am hyn, ymwelwch â’n tudalen ynghylch mabwysiadu.
Bydd angen inni gymeradwyo unrhyw gysylltiad newydd â charthffos gyhoeddus. Hyd yn oed os ydych yn ailddefnyddio cysylltiad carthffos sydd eisoes yn bodoli, bydd angen i ni ei gymeradwyo. Os nad ydym wedi rhoi ein caniatâd, yna rydych chi'n torri'r gyfraith.
Cysylltiad dŵr newydd ar gyfer taenellwyr dŵr
- Nid yw hyn yn berthnasol oni bai eich bod chi’n adeiladu eiddo newydd neu'n gweddnewid eiddo sydd eisoes yn bodoli, yng Nghymru.
- Yn 2011, gweithredodd Llywodraeth Cymru Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) gan wneud systemau taenellu dŵr yn orfodol ym mhob eiddo domestig newydd. Gallwch ganfod rhagor yma.
Draenio cynaliadwy
- Dim ond i ddatblygiadau newydd sydd â mwy nag un adeilad neu ardal adeiladu o 100m2 neu fwy yng Nghymru y mae hyn yn berthnasol.
- Bydd angen caniatâd gan Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (a elwir hefyd yn SAB) ar y datblygiadau newydd hyn ar gyfer unrhyw nodweddion SDCau newydd, yn ôl Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, cyn rhoi caniatâd cynllunio.
- Gallwch ganfod rhagor yma.
Peidiwch ag anghofio
- Efallai eich bod yn gymwys hefyd ar gyfer ein Cynllun cymhelldal dŵr wyneb os oes gennych gynlluniau i gael gwared â dŵr wyneb o'r rhwydwaith dŵr gwastraff.
Cyn i chi balu
- Os ydych chi yn adeiladu ar dir, yna mae'n syniad da nodi a oes unrhyw rai o'n pibellau yn y ddaear yn gyntaf. Wedi’r cyfan, mae unrhyw ddifrod i'n pibellau yn drosedd o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
- I gael gwybod a yw eich tir yn cynnwys unrhyw un o'n pibellau ni, cliciwch yma.