Rwyf yn estyn fy nghartref


Ein gwaith ni yw casglu dŵr gwastraff o gartrefi a busnesau ledled Cymru a rhannau o Loegr. Ac i wneud hyn rydym yn defnyddio ein rhwydwaith enfawr o bibellau carthffosydd, dros 30,000km ohonynt i gyd - mae hynny'n ddigon i estyn i Awstralia ac yn ôl!

Mae ein carthffosydd yn rhedeg o dan y ddaear ar draws ein hardal weithredu, mewn strydoedd a gerddi, caeau a thir. Felly, os ydych chi'n estyn eich eiddo, p'un a ydych yn adeiladu estyniad neu ystafell wydr, mae'n debyg y bydd pibell garthffos gerllaw.

Dyna pam y bydd angen i chi roi gwybod inni os ydych yn bwriadu estyn eich cartref, fel y gallwn sicrhau bod eich cartref, a'n pibellau, yn cael eu diogelu yn ystod ac ar ôl y gwaith adeiladu.

Os ydych yn estyn eich eiddo, bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn gwybod a oes unrhyw brif bibellau dŵr, carthffosydd cyhoeddus neu ddraeniau ar eich tir. Mae'n syniad da canfod hyn cyn dechrau, fel y bydd y gwaith yn mynd rhagddo mor ddidrafferth â phosibl.

Os ydych yn bwriadu adeiladu dros, neu o fewn tri metr i un o'n pibellau carthffosydd neu ddraeniau ochrol, bydd angen i chi roi gwybod i ni – fel y gallwn ystyried eich cynnig.

Ewch i'n tudalen adeiladu dros garthffosydd, neu'n agos atynt i gael rhagor o wybodaeth.

Peidiwch ag anghofio

  • Ni chewch chi ddechrau gweithio nes ein bod ni wedi cymeradwyo eich cais.