Taenellwyr Dŵr


Mae angen taenellwyr dŵr ym mhob tŷ a fflat newydd yng Nghymru

Ers mis Ionawr 2016, mae angen gosod systemau taenellu dŵr ym mhob tŷ a fflat newydd a’r rhai sydd wedi eu gweddnewid.

Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yw hon, a cheir manylion amdani yn ei Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) y gellir ei ddarllen yn llawn yma.

Yr hyn y mae angen ei wybod arnoch

  • Os ydych chi'n datblygu adeilad neu safle newydd, dylid bod system taenellu dŵr ym mhob un o'ch adeiladau.
  • Dim ond ar gyfer adeiladau domestig neu breswyl y mae’r rheoliad hwn yn berthnasol, ac nid ar gyfer adeiladau a ddefnyddir at ddibenion masnachol.
  • Ar ôl i chi gynllunio eich system taenellu dŵr, byddwn wedyn yn ei harchwilio ac yn sicrhau ei bod yn bodloni rheoliadau (Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999).
  • Gallwn ddarparu cysylltiad mwy, 32mm, gyda mesurydd electro-pwls pan ofynnir amdano. Dyma'r opsiwn nodweddiadol a ddewisir pan fo’r cynllunydd taenellwyr dŵr wedi cynghori eich bod chi’n gosod system daenellu sy’n bwydo’n uniongyrchol o’r brif bibell ddŵr.
  • Ni allwn warantu bod dŵr, llif na phwysedd ar gael ar gyfer systemau o'r fath ac mae’n rhaid ystyried yr agweddau hyn wrth gynllunio’r system daenellu. Rydym yn gweithredu isafswm pwysau gweithredol o 1.5 Bar yn unol â'r rheoliad presennol.

A ydych yn dymuno gwybod rhagor?