Mae canlyniadau diwedd blwyddyn y Mesur o Brofiadau Datblygwyr (D-MeX) wedi eu cyhoeddi


10 Gorffennaf 2023

Fel y gwyddoch chi, D-MeX yw’r mesuriad y mae ein rheoleiddwyr, Ofwat yn ei ddefnyddio i fesur boddhad ein cwsmeriaid datblygu.

Mae ein perfformiad o ran Lefelau Gwasanaeth ar gyfer 2022/23 yn dal i fod yn uchel â sgôr blynyddol o 99.95%.

Mae ychwanegu ein canlyniadau boddhad cwsmeriaid yn darparu sgôr gyffredinol o 84.6% o ran perfformiad yn D-MeX (sy’n uwch na’r llynedd).

Diolch i chi i gyd sydd wedi ymateb i’r arolwg. Rydyn ni’n parhau i wella’r gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer datblygwyr yn seiliedig ar adborth, a denodd ein fforwm datblygwyr ymateb cadarnhaol gan 97% o’r rhai a fu’n bresennol..