Cyhoeddi canlyniadau Chwarter 3 y Mesur o Brofiad Datblygwyr (D-MeX)
24 Mai 2021
Rydyn ni wedi bod yn arwain y diwydiant yn nhermau gwasanaethau cwsmeriaid i ddatblygwyr ers i fetrics Lefelau Gwasanaeth WaterUK gael ei gyflwyno yn 2015. Fel y mae llawer ohonoch chi'n gwybod, D-MeX yw'r mesur newydd y mae ein rheoleiddiwr, Ofwat, yn ei ddefnyddio i fesur boddhad ein cwsmeriaid sy'n ddatblygwyr.
Mae canlyniadau chwarter tri newydd ddod i law ar gyfer y flwyddyn hon (2021-22), sy'n gosod ein sgôr am Lefelau Gwasanaeth y flwyddyn hyd yn hyn ar lefel o 97.62%. Trwy ychwanegu hyn at ein sgôr am foddhad cwsmeriaid, cawn sgôr gyfunol o 82.12% hyd yn hyn.
Diolch i chi i gyd sydd wedi cymryd rhan yn yr arolwg. Rydyn ni'n parhau i wella'r gwasanaeth a ddarparwn ar gyfer datblygwyr yn seiliedig ar adborth:
- Mae 83% ohonoch sydd wedi defnyddio ein porth datblygwyr newydd ar-lein (a lansiwyd yn Hydref 2020) naill ai'n fodlon neu'n fwy na bodlon arno.
- Cafodd ein fforwm datblygwyr rhithwir cyntaf (a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2021) 4 seren allan o bump ar gyfartaledd gan y rhai a fu'n bresennol, ac mae'n debyg eich bod wedi mwynhau ein siaradwyr gwadd o Ofwat a Llywodraeth Cymru yn benodol.