Canlyniadau Lefelau Gwasanaeth Diweddaraf y Gwasanaethau Datblygu gan Water UK


20 Gorffennaf 2020

Ers 2015, mae Water UK wedi bod yn mesur perfformiad gwasanaethau datblygwyr cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr ar sail set safonau o ran Lefelau Gwasanaeth. 

Mae’r canlyniadau diweddaraf ar gyfer Ch4 (hyd Fawrth 2020) wedi cael eu cyhoeddi’n swyddogol, ac rydyn ni yn y chwartel uchaf, sy’n golygu, ar gyfer y flwyddyn 2019-2020, ein bod ni yn y safle cyntaf yng Nghymru a Lloegr ar gyfer mesurau carthffosiaeth ac yn yr ail safle ar gyfer mesurau dŵr. Mae’r canlyniadau llawn ar gael yma.