Cynllunio


Gall ein tîm cynllunio arbenigol weithio gyda chi o'r funud yr ydych yn ystyried adeiladu eiddo newydd hyd at estyn eich tŷ. Dyma restr o'n gwasanaethau:

  • Cyn cynllunio
    • Os ydych chi'n bwriadu adeiladu cartref neu safle newydd, ac nad ydych wedi cael caniatâd cynllunio oddi wrth eich awdurdod lleol eto, yna gallai gwneud cais am ein gwasanaeth cyn cynllunio fod o fudd ichi.
  • Lleoli ein pibellau dŵr a'n carthffosydd
    • Os ydych yn dymuno adeiladu ar dir lle mae pibellau dŵr neu garthffosydd, yna mae'n syniad da cysylltu â ni fel y gallwn eich helpu i ddod o hyd iddynt.
  • Adeiladu dros garthffosydd, neu’n agos atynt
    • Os ydych yn estyn eich tŷ, mae siawns dda bod un o'n carthffosydd yn eich gardd gefn. Os ydych yn dymuno adeiladu drosti neu'n agos ati, yna mae angen i chi ofyn am ein caniatâd yn gyntaf.
  • Chwiliadau draenio a dŵr
    • Os ydych ar fin prynu neu werthu eiddo, mae'n debyg y byddwch eisiau adroddiad i ddangos ei wasanaethau dŵr a draenio. Gelwir y math hwn o adroddiad yn ‘chwiliad draenio a dŵr’.
  • Rheoliadau Adeiladu
    • Os ydych chi’n awdurdod lleol neu’n gwmni rheoli adeiladu sydd angen canfod a fydd cais rheoli adeiladu newydd yn effeithio ar ein hasedau, yna gallwch anfon manylion cynlluniau eich cwsmer atom yn y fan hyn.