Adeiladu ar ben neu'n agos at garthffosydd


Ein gwaith ni yw casglu dŵr wyneb a dŵr daear o gartrefi a busnesau ledled Cymru a rhannau o Loegr. Rydyn ni'n defnyddio ein rhwydwaith helaeth o bibellau carthffosiaeth i wneud hyn. Mae dros 30,000km ohonynt i gyd - digon i ymestyn i Awstralia a nôl!

Byddem yn argymell i'n holl gwsmeriaid lenwi'r ffurflen hunanardystio’n gyntaf.

Y rheswm am hynny yw taw dyma'r dull mwyaf cyffredin i'n cwsmeriaid. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf ar gyfer hunanardystiad, neu os gallwch ddiwygio eich cynlluniau i gyd-fynd â hynny, byddwn ni'n rhoi caniatâd i chi adeiladu dros ben neu'n agos at garthffos, a chewch hysbysiad cymeradwyo ar ffurf neges e-bost cyn pen 3 diwrnod ar ôl cyflwyno'ch cais. Pan fydd yr hysbysiad hwn gennych, cewch ddechrau adeiladu.

Os llenwch chi'r ffurflen ond nad ydych chi'n bodloni ein meini prawf, yna bydd angen i chi lenwi'r cais llawn, sy'n ffurflen fanylach.

Faint o amser bydd hyn yn ei gymryd?

Pan fydd eich cais wedi dod i law trwy ein porth ar lein, ein nod fydd ymateb cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Mae hi'n werth nodi y bydd angen i chi wybod y manylion canlynol er mwyn llenwi'r ffurflen hunanardystio:

  • Lleoliad a llwybr y garthffos gyhoeddus mewn perthynas â'ch cynlluniau adeiladu
  • Maint a dyfnder y garthffos gyhoeddus
  • Deunydd y garthffos gyhoeddus
  • Y math o garthffos gyhoeddus sydd yno e.e. dan bwysedd neu bwmp
  • Y math o sylfeini y bwriedir eu defnyddio

Ydych chi’n gwsmer sydd angen cymorth ychwanegol?

Os ydych chi’n addasu neu’n ymestyn eich eiddo i’w gwneud yn fwy hwylus i rywun â namau corfforol, rhowch wybod i ni yn adran ‘natur y cynnig’ ein ffurflen gais. Gallwn gynnig cymorth ychwanegol fel cymorth i lenwi eich cais a rhagor o gyngor a chymorth trwy’r broses adeiladu. I drafod eich cynigion, cysylltwch â’n tîm Adeiladu dros Garthffosydd ar 0800 917 2652.