Gwastraff


O gysylltiadau gwastraff i eiddo unigol i ddargyfeiriadau carthffosydd mawr, gall ein tîm o beirianwyr profiadol eich helpu.

  • Cysylltiadau carthffosydd newydd
    • Os ydych chi'n adeiladu cartref neu ddatblygiad newydd, mae'n debyg eich bod chi eisiau cysylltu ag un o'n pibellau carthffosiaeth fel y gallwn fynd â'ch dŵr gwastraff oddi yno i'w drin, ei lanhau a'i ddychwelyd i'r amgylchedd.
  • Mabwysiadu systemau carthffosiaeth arfaethedig
    • Os ydych eisiau cysylltiad carthffos newydd i eiddo arfaethedig a bod y garthffos gyhoeddus y tu allan i ffin eich eiddo, oherwydd rheoliadau Llywodraeth Cymru, mae'n debyg y bydd rhaid i chi gael cytundeb mabwysiadu ar waith cyn dechrau adeiladu. Pan fydd y cytundeb mabwysiadu hwn ar waith, yna fe gewch wneud cais am gysylltiad carthffos newydd.
  • Mabwysiadu systemau carthffosiaeth presennol
    • Os oes gennych system garthffosiaeth breifat yr hoffech i ni ystyried ei mabwysiadu yn rhan o'n rhwydwaith, gallwch wneud cais am hyn yma. Pan fydd wedi ei mabwysiadu, byddwn yn gyfrifol am ei chynnal a'i chadw.
  • Dargyfeirio, newid neu adael carthffos gyhoeddus
    • Os ydych eisiau gwella neu ddatblygu'r tir yr ydych yn berchen arno, ac y byddai'r garthffosiaeth gyhoeddus yn debygol o atal neu rwystro eich datblygiad, yna mae gennych hawl i ofyn am iddi gael ei dargyfeirio, ei newid neu ei thynnu.