Ein taliadau


Bob blwyddyn, rydyn ni'n cyhoeddi rhestr newydd o daliadau sy'n cael eu cyfrifo yn unol â’r gofynion cyfreithiol cyfredol a chanllawiau diweddaraf ein rheoleiddiwr, Ofwat.

Rhestr ddiweddaraf o daliadau, a gallwch eu darllen yn eu cyfanrwydd yma.

Er bod ein taliadau'n amrywio yn dibynnu ar faint eich datblygiad, mae’r datganiad o newidiadau yma’n rhoi brasamcan o'r costau ar gyfer rhai sefyllfaoedd, fel darparu gwasanaethau ar gyfer un eiddo, bloc o fflatiau, yn ogystal â datblygiadau bach, canolig a mawr. Am fod pob datblygiad yn wahanol, nid yw'r taliadau hyn yn gynrychiadol, ond gallant gynnig man cychwyn i chi.

Gallwch dalu am ein holl wasanaethau trwy ein porth talu ar lein yma.

Sut rydyn ni'n cyfrifo'n taliadau

Fel cwmni nid-er-elw, nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gennym. Mae ein taliadau am wasanaethau datblygu'n seiliedig ar gost darparu'r gwasanaeth yn unig; nid ydym yn gwneud elw ar ein gwasanaethau.

Bob blwyddyn, rydyn ni'n ail-gyfrifo ein taliadau'n seiliedig ar gost yr adnoddau ac unrhyw ddeunyddiau sydd eu hangen i gyflawni’r gwaith er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gywir o hyd, a'u bod yn adlewyrchu'r costau cyflawni’r gwaith.

Ein hymrwymiad i wasanaethau cwsmeriaid

Fel cwmni sydd mewn perchnogaeth a dan reolaeth ar ran ein cwsmeriaid, rydyn ni'n cymryd pob cam posibl i wneud pethau'n iawn y tro cyntaf bob tro, ond weithiau mae pethau'n mynd o chwith.

Dyma ein haddewid i chi pan fydd pethau'n mynd o chwith: byddwn ni'n gwneud iawn am y peth cyn gynted â phosibl, ac os ydyn ni wedi methu â chyflawni ein lefelau gwasanaeth arferol, byddwn ni'n cynnig ymddiheuriad i chi (a bydd hyn yn cynnwys ein cynlluniau i atal yr un peth rhag digwydd eto) ac yn talu iawndal i chi.

Generic Document Thumbnail

Cefnogi Cwsmeriaid Gwasanaethau Datblygwyr

PDF, 3.7MB

Mae manylion ein had-daliadau a phryd y cânt eu talu yma. Byddwn ni'n talu'r rhain yn awtomatig, nid oes angen hawlio.