Systemau Draenio Cynaliadwy


Mae angen systemau draenio cynaliadwy ar ddatblygiadau newydd yng Nghymru

Ers Ionawr 2019, mae’n rhaid i bob datblygiad newydd sy'n:

  • Cynnwys mwy nag un adeilad neu
  • Sydd ag arwynebedd adeiladu o 100m2 neu fwy

gynnwys systemau draenio cynaliadwy (SDCau) ar gyfer dŵr wyneb.

Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yw hon, a cheir manylion amdani yn atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 y gallwch ei darllen yn llawn yma.

Gall systemau draenio traddodiadol gynyddu'r perygl o lifogydd. Mae SDCau yn efelychu'r broses ddraenio naturiol, sy'n golygu eu bod nhw’n lleihau'r perygl o lifogydd.

Yr hyn y mae angen ei wybod arnoch

  • Os ydych chi'n datblygu safle sydd â mwy nag un adeilad, mae angen i chi ei gynllunio gyda system ddraenio gynaliadwy mewn golwg.
  • Mae’n rhaid cynllunio ac adeiladu SDCau yn unol â safonau statudol Llywodraeth Cymru.
  • Mae’n rhaid i gynlluniau SDCau gael eu cymeradwyo gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB), cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.
  • Darperir SABau gan awdurdodau lleol ledled Cymru. Dyma restr hwylus o awdurdodau lleol yn ein hardal weithredu – byddem yn argymell cysylltu â nhw yn uniongyrchol a gofyn am gael siarad â'u tîm SAB.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyngor Sir Ceredigion

Dinas a Sir Abertawe

Cyngor Dinas Caerdydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyngor Sir Ddinbych

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Gwynedd

Cyngor Sir Ynys Môn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyngor Sir Fynwy

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Cyngor Dinas Casnewydd

Cyngor Sir Penfro

Cyngor Sir Powys

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Cyngor Bro Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

  • Ar ôl ichi wneud cais i'ch awdurdod cynllunio lleol am gymeradwyaeth, byddant yn cysylltu â ni fel y gallwn gadarnhau ein bod ni’n gallu ymdrin ag unrhyw gysylltiadau dŵr gwastraff newydd i mewn i'n rhwydwaith.
  • Ar ôl i’r awdurdod cynllunio lleol a'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy gymeradwyo eich cynllun, bydd yn cael ei fabwysiadu a'i gynnal gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.
  • Nid oes rhaid i chi gael cymeradwyaeth gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy os:
    • Goblygiadau draenio tŷ sengl sydd gan eich datblygiad a bod arwynebedd y tir a gwmpesir gan y gwaith adeiladu yn llai na 100m2, neu os
    • Yw arwynebedd y tir a gwmpesir yn llai na 100m2 a’i fod yn cynnwys unrhyw fath arall o waith adeiladu.

A ydych yn dymuno gwybod rhagor?

Peidiwch ag anghofio

  • Efallai eich bod yn gymwys hefyd ar gyfer ein Cynllun cymhelldal dŵr wyneb os oes gennych gynlluniau i gael gwared â dŵr wyneb o'r rhwydwaith dŵr gwastraff

Coridorau gwasanaethau

PDF, 66.5kB

Os ydych yn dylunio cynllun SDCau, dyma dogfen gwybodaeth technegol i chi neu i'ch dylunwyr i'w ddefnyddio pan fydwch yn datblygu'r datrysiad SDCau ar gyfer eich datblygiad