Rheoliadau Adeiladu


Mae Rheoliadau Adeiladu 2010 yn golygu bod yn rhaid i unrhyw un sy'n codi adeilad newydd neu sy'n ehangu adeilad cyfredol gael caniatâd rheoliadau adeiladu gan eu hawdurdod lleol neu gwmni rheoli adeiladu penodol.

Os ydych chi'n awdurdod lleol neu'n gwmni rheoli adeiladu sydd angen cael gwybod a fydd cais rheoli adeiladu newydd yn debygol o effeithio ar ein hasedau, rydych chi wedi dod i'r lle cywir.

Am y tro cyntaf, gallwch ddefnyddio ein ffurflen gais ar lein i anfon holl fanylion cynlluniau eich cwsmer atom ni.

Ein nod fydd dod nôl atoch chi cyn pen deg diwrnod gwaith, a byddwn ni'n rhoi gwybod i chi os bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar ein pibellau dŵr neu ein carthffosydd cyhoeddus.

Noder: mae'r ffurflen hon ar gyfer awdurdodau lleol a chwmnïau rheoli adeiladu yn unig. Os ydych chi'n ddatblygwr neu'n berchennog sy'n ehangu eich cartref, bydd angen i chi gyflwyno cais yn uniongyrchol i'ch sefydliad rheoliadau adeiladu lleol.

Beth fydd y gost?

Ni chodir tâl am y gwasanaeth yma.

Am fanylion ein taliadau eraill, darllenwch ein rhestr o daliadau yma