Mabwysiadu systemau carthffosiaeth sy'n bodoli eisoes


Ydych chi am i ni ystyried mabwysiadu eich system garthffosiaeth breifat i'n rhwydwaith? Ar ôl mabwysiadu'r garthffos, ni fydd yn gyfrifol am ei chynnal.

Mae hi'n bwysig nodi bod y gwasanaeth yma'n berthnasol i ddatblygiadau hŷn lle na drosglwyddwyd y systemau dŵr wyneb yn awtomatig yn bennaf. Os ydych chi'n adeiladu datblygiad newydd, bydd angen cyflwyno cais trwy ein tudalen mabwysiadu systemau carthffosiaeth arfaethedig.

Beth fydd y gwasanaeth yn ei ddarparu?

Er i ni fabwysiadu'r mwyafrif o’r carthffosydd cyhoeddus a'r draeniau ochrol yn 2011, roedd yna rai na drosglwyddwyd i'n perchnogaeth. Mae dyletswydd gennym i fabwysiadu carthffosydd preifat pan fo pawb sy'n cael eu gwasanaethu ganddynt am i ni wneud hynny.

Ond ni allwn fabwysiadu carthffosydd a draeniau ochrol oni bai eu bod nhw’n bodloni safon benodol. Eich cyfrifoldeb chi yw cyflawni unrhyw waith i ddod â'ch system garthffosiaeth i'r safon yna.

Anaml iawn y mae angen defnyddio'r broses ar gyfer mabwysiadu carthffosydd sy’n bodoli eisoes. Mae hynny am i ni fabwysiadu carthffosydd preifat yn awtomatig yn 2011/13 ac am fod rhaid i unrhyw garthffosydd mabwysiadwy a grëwyd ers 2012 fod â chytundeb parod i fabwysiadu'r carthffosydd cyn eu hadeiladu.

Faint o amser bydd hyn yn ei gymryd?

Am fod pob carthffos yn wahanol, nid oes yna amserlen benodol ar gyfer mabwysiadu carthffosydd. Wrth gyflwyno cais am y gwasanaeth hwn, bydd ein tîm yn gallu cynnig brasamcan o'r amserlen i chi.

Beth fydd y gost?

Mae dwy gost sy’n gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn, y ffi archwilio a’r ffi gyfreithiol. Mae'r ffioedd hyn yn amrywio yn dibynnu ar fanylion pob cynllun, ac maen nhw'n debyg i'r ffioedd ar gyfer mabwysiadu carthffosydd arfaethedig a ddisgrifir yma.

Fel cwmni nid-er-elw, mae ein prisiau'n seiliedig ar gost darparu'r gwasanaeth yn unig. Am fanylion ein prisiau, darllenwch ein rhestr o daliadau yma.

Sut mae mynd ati i ymgeisio?

I gyflwyno cais i Ddŵr Cymru i fabwysiadu’ch carthffos, e-bostiwch eich ymholiad i developer.services@dwrcymru.com. Bydd un o'n cynghorwyr yn cysylltu â chi.

Rheoliad i fod yn ymwybodol ohono

Generic Document Thumbnail

Nodiadau canllaw ar fabwysiadu carthffosydd

PDF, 278.5kB

Byddem yn cynghori pawb i ddarllen ein nodiadau canllaw manwl cyn cyflwyno cais.