Mabwysiadu systemau carthffosiaeth arfaethedig


Os ydych chi'n adeiladu cartref neu ddatblygiad newydd, mae'n debyg eich bod eisiau cysylltu ag un o'n pibellau carthffosiaeth fel y gallwn fynd â'ch dŵr gwastraff oddi yno i'w drin, ei lanhau a'i ddychwelyd i'r amgylchedd. Gelwir hyn yn gysylltiad carthffos.

Os ydych yn gwneud cais am gysylltiad carthffos newydd a bod y garthffos y tu allan i ffin eich eiddo, neu ei bod yn gwasanaethu mwy nag un adeilad, yna bydd angen i chi:

  • ofyn i ni ymrwymo i gytundeb mabwysiadu gyda chi yn gyntaf, cyn i chi adeiladu
  • adeiladu yr hyn a elwir yn ‘ddraen ochrol’, a fydd yn cysylltu eich eiddo â'n carthffos

Gallwch nodi a yw'r garthffos y tu allan ynteu y tu mewn i ffin eich eiddo drwy ymweld â'n tudalen cysylltu carthffosydd.

Ar gyfer eiddo unigol, gellir dod o hyd i'n nodiadau canllaw yma.

Ar gyfer eiddo lluosog, gellir dod o hyd i'n nodiadau canllaw yma.

Ar ôl i chi gael cyfle i ddarllen y nodiadau canllaw a phan fyddwch yn gyfforddus eich bod chi’n bodloni ein canllawiau ni, rhowch ragor o fanylion i ni am eich datblygiad drwy’r ffurflen gais. Gelwir y ffurflen gais hon hefyd yn gais ‘adran 104’ neu ‘a104’.

Yna, bydd aelod o'n tîm yn gallu cynnig cymorth a chyngor i chi.

Faint fydd y gost?

Mae'r taliadau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn yn ymrannu'n ffi archwilio, sy'n cynnwys gwaith archwilio technegol ar eich dyluniad, a ffi gyfreithiol i ddrafftio'r cytundeb cyfreithiol hefyd. Mae'r ffioedd hyn yn amrywio yn dibynnu ar fanion pob cynllun, ac nid ydym yn gofyn amdanynt nes ein bod wedi adolygu a derbyn eich dyluniad arfaethedig.

Yn achos carthffosydd newydd nad oes angen gorsaf bwmpio y gellir ei mabwysiadu arnynt, mae'r ffi archwilio'n seiliedig ar nifer yr eiddo fel a ganlyn:

£680.63 am un eiddo (draen ochrol)

£1,287.88 am 2-5 eiddo

£2,096.82 am 6-25 eiddo

£3,502.41 am fwy na 25 eiddo

Lle bo angen mabwysiadu gorsaf bwmpio newydd, mae'r ffi archwilio'n seiliedig ar nifer yr eiddo fel a ganlyn:

£3,001.76 am un eiddo (draen ochrol)

£3,609.01 am 2-5 eiddo

£4,417.95 am 6-25 eiddo

£5,823.54 am fwy na 25 eiddo

Mae'r ffi gyfreithiol yn dibynnu ar y math o ddogfennau sydd eu hangen, a beth y mae angen ei gofrestru gyda'r gofrestrfa dir. Er enghraifft, mae'r ffi am gytundeb draen ochrol yn unig, heb unrhyw Weithred Caniatáu Hawddfraint cysylltiedig, yn dechrau ar lefel o £205.32.

Diogelir gwarant/bond yn rhan o'r cytundeb cyfreithiol hwn. Mae'r warant/bond yn cael ei ryddhau ar ôl cwblhau'r cyfnod atebolrwydd am ddiffygion yn llwyddiannus yn sgil cwblhau'r gwaith.

Am fanylion ein prisiau, ewch i'n rhestr brisiau yma.

 

Rheoleiddiad y dylid bod yn ymwybodol ohono

Peidiwch ag anghofio

  • Yn ogystal â gofyn inni fabwysiadu eich system garthffosiaeth newydd, bydd angen i chi wneud cais am gysylltiad carthffos.

Archebion am garthffosydd

Weithiau, nid oes gan eich cartref neu eich safle ffordd o ddraenio i garthffos gyhoeddus oherwydd bod tir sy'n eiddo i drydydd parti rhwng y safle a'r garthffos. Os na fydd y trydydd parti yn rhoi mynediad i chi i'r tir, yna gallwch ofyn yn ffurfiol (archebu) am garthffos gyhoeddus a/neu ddraen ochrol oddi wrthym ni.

Mwy o wybodeth yma