Nid ydym yn gallu derbyn ceisiadau ar-lein ar hyn o bryd.

Wedi’i ddiweddaru: 15:03 09 June 2023

Mae gennym broblemau ar hyn o pryd sy’n golygu na all cwsmeriaid wneud ceisiadau newydd ar-lein drwy ein porth ac rydym yn gweithio’n galed i ddatrys y broblem. Nid ydym yn gallu derbyn ceisiadau ar-lein ar hyn o bryd.

Yn y cyfamser, llenwch ein ffurflenni cais sydd ar gael yma ac anfon pob cais wedi ei lenwi i developer.services@dwrcymru.com. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.

Ddim yn siwr beth sydd ei angen arnoch?

Gallwn ni fod o gymorth.

Mae gennym ni lawer o wybodaeth ar y gwahanol gysylltiadau a'r ceisiadau y gallai fod eu hangen arnoch.

Gweld ein ceisiadau

A ydych chi'n adeiladu eich tŷ eich hun?

Neu efallai eich bod chi'n gweithio ar ddatblygiad tai? P'un a ydych yn adeiladwr am y tro cyntaf sy’n gweithio i adnewyddu un cartref presennol, neu’n ddatblygwr gyda safle sy’n cynnwys nifer o adeiladau newydd, gallwn eich helpu chi i gysylltu â'n rhwydweithiau dŵr a charthffosydd.

Gorau po gyntaf y byddwch yn ein cynnwys ni yn y broses.